Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ailystyried Athrawiaeth y Cwymp PETH peryglus yw adeiladu athrawiaeth grefyddol ar sail stori sydd â'i gwreiddiau mor bell yn ôl mewn hanes fel nad oes posib profi na gwrthbrofi ei manylion. Mwy gwir hyn pan ddefnyddir y stori i esbonio rhai o wirioneddau canolog y bywyd dynol, a hynny mewn ffordd sy'n newid cwrs bywyd crefyddol a chymdeithasol rhan helaeth o boblogaeth y byd. Dyna a ddigwyddodd pan gymerodd yr Eglwys Gristnogol stori Adda ac Efa yng Ngardd Eden fel gwirionedd llythrennol. Gwyddom erbyn hyn mai yn y chweched ganrif cyn Crist y cyfansoddwyd llyfrau hanes yr Hen Destament, allan o hen gofnodion hanes y brenhinoedd, a llawysgrifau am chwedlau cenedlaethol, a thraddodiadau llafar. Erbyn y cyfnod hwnnw yr oedd dylanwadau estron wedi effeithio ar syniadau y golygyddion­×yn enwedig y straeon Babylonaidd am greadigaeth y byd, a chwedlau am Oes Euraid yn y gorffennol pell. Y dylanwadau hyn sydd i'w canfod ar benodau cynnar Genesis, ac nid oes posib eu deall yn iawn o'u cymryd yn llythrennol, sef fel disgrifiad cywir o'r hyn a ddigwyddodd yn nyddiau bore'r byd a bywyd y ddynoliaeth. Ond ni olyga hyn nad oes gwerth yn y penodau hynny­-ond mai gwerth gwahanol sydd iddynt: nid gwerth hanesyddol, ond gwerth symbolig. Nid hanes, ond 'myth' yw stori Adda ac Efa, a Gardd Eden, a'r hyn a ddigwyddodd yn Genesis 2-4. Ceir yno ymgais i esbonio pynciau dyrys megis-Sut y daeth drygioni i mewn i'r byd? Pam y mae'n rhaid i ddyn farw? Pam y mae Duw a dyn wedi ymddieithrio? Yn ychwanegol at y cwestiynau hynny yr oedd rhai eraill llai pwysig, ond diddorol, megis-Pam y mae dyn yn gorfod llafurio mor galed i ennill bywoliaeth? Pam y mae'r fenyw yn dioddef poenau wrth esgor ar blentyn, yn wahanol i'r anifeiliaid? Pam y mae'r neidr mor elyniaethus i ddyn, ac mor wahanol i greaduriaid eraill? Nid oedd ateb pendant i'r cwestiynau hyn-ond rhaid oedd mentro ar ryw esboniad (dyna natur y meddwl dynol). A'r hyn a wnaeth dyn oedd creu stori-fmythos', yn ôl y Groegiaid. A'r stori, y myth, a geisiodd ddehongli cwestiynau 'drygioni' a 'marwolaeth' oedd yr hyn a geir yn hanes Gardd Eden a'i ganlyniadau. Taflwyd dyn allan o'r Ardd; haeddodd farwolaeth am iddo anufuddhau i orchymyn Duw a bwyta o ffrwyth 'pren gwybodaeth da a drwg'. Trwy hyn fe gollodd freintiau'r Ardd i gyd. Pechodd yn erbyn Duw-fe gwympodd. Ac am iddo ef gwympo, yn ôl y stori, y mae'r hil ddynol, pob aelod ohoni yn ddi-eithriad, yn dioddef canlyniadau'r weithred, yn euog o'r un bai, ac o dan yr un condemniad. Dyna sylwedd yr athrawiaeth a ddatblygodd yn 'athrawiaeth y Cwymp' yn yr Eglwys Gristnogol. Ac am fod yna anghysonderau yn y stori, credwn ei bod yn amser i ni ei hail-ystyried. Hyd y gwelaf, y ddau gwestiwn pwysicaf yn y stori yw, yn gyntaf, y berthynas rhwng gwybodaeth a drygioni, ac yn ail, gallu dyn i ddewis, hynny yw, rhyddid ewyllys. Y mae llyfr Genesis yn sôn am ddwy goeden yn yr Ardd: sef 'pren y bywyd'