Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cynhwyswyd yn llyfryddiaeth Arthur ap Gwynn ar y pwnc hwn yw honno o eiddo'r diweddar Athro Thomas Jones, 'A Sixteenth Century Version of the Arthurian Cave Legend', Studies in Language and Literature in Honour of Margaret Schlaugh (1966). T. Gwynn Jones ydoedd un o'r ysgolheigion cyntaf yng Nghymru i sylweddoli gwerth dosbarthiad Antti Aaarne o Ffinland, Verzeichnis der Märchentypen (1910) a gyfieithwyd wedi hynny a'i helaethu gan Stith Thompson o Brifysgol Indiana, The Types of the Folktale. A Classification and Bibliography (1928). Yn ddiweddarach paratoes Stith Thompson ei chwe chyfrol fawr, Motif Index of Folk Literature (cyhoeddwyd gyntaf yn y gyfres Folklore Fellows Communications, rhifau 106-9, 116-7, Helsinki, 1932-6, ac yna mewn argraffiad diwygiedig yng Nghopenhagen, 1955), a chollodd Arthur ap Gwynn gyfle i gyfeirio atynt. Ni ddylai unrhyw efrydydd llên gwerin mewn unrhyw wlad bellach fod heb wybod am y cyfrolau gwerthfawr hyn. Cyfrol werthfawr arall yw Seán O Súilleabháin, A Handbook oflrish Folklore (1942), a chyfeiriwyd at hon yn y llyfryddiaeth. Cyfeiriwyd hefyd at European Folk Tales (1963), (Laurits Bodker oedd un o'rgolygyddion, nid L. Bolker), ond ni chyfeiriwyd at European Anecdotes and Jests (1972), cyfrol a olygwyd gan Kurt Ranke ac a gyhoeddwyd yn yr un gyfres, sef yr 'European Folklore Series', o dan nawdd Cyngor Ewrop. Cynnwys y gyfrol olaf hon gyfieithiadau o bum stori a recordiwyd ar dâp gan Amgueddfa Werin Cymru ac sy'n cyfateb i'r storiau digri y cyhoeddwyd crynodeb ohonynt yn Welsh Folklore and Folk-Custom. 'Rwy'n sicr y bydd defnyddio helaeth ar gyfrol T. Gwynn Jones am flynyddoedd lawer eto, a dyna'r prif reswm paham y manylais beth ar y llyfryddiaeth a baratowyd gan ei fab. Er imi nodi rhai bylchau a pheth anghytbwysedd, y mae iddi, serch hynny, werth amlwg. Ac felly'r rhagymadrodd. Carwn gloi hyn o sylwadau, felly, drwy ddiolch i Arthur ap Gwynn am ei lafur ac am ei gymwynas yn sicrhau bod cyfrol ei dad ar gael unwaith eto i genhedlaeth newydd o efrydwyr llên gwerin. Yr Amgueddfa Werin, San Ffagan, Caerdydd. ROBIN GWYNDAF DAVID JENKINS, Erthyglau ac Ysgrifau Llenyddol Kate Roberts (Gwasg Christopher Davies, Abertawe, 1978). Tt. 447. Pris: £ 7.50. PAM na feddyliodd rhywun am wneuthur detholiad o erthyglau ac ysgrifau llenyddol Kate Roberts cyn hyn? Hawdd yw gofyn y cwestiwn ar ôl i'r gwaith gael ei wneuthur, ie, a hawdd yw synnu nad aeth rhywun ati ynghynt, yn enwedig o ystyried maint ac ansawdd y cynhaeaf a addawai'r gwaith. Sut bynnag, ymddengys mai i Syr Alun Talfan Dvies y mae'r diolch am symbylu gwneuthur a chyhoeddi'r gyfrol hardd a gwerthfawr hon. Efe a gafodd y syniad mai da fyddai casglu detholiad o'r hyn a ysgrifennodd Kate Roberts o bryd i'w gilydd i'n newyddiaduron a'n cylchgronau, ac efe a gymhellodd y Dr. David Jenkins i ymaflyd yn y gorchwyl. Fel Pennaeth y Llyfrgell Genedlaethol yr oedd y Dr. Jenkins mewn safle fanteisiol i dwrio drwy ein llenyddiaeth wythnosol a chyfnodol i ddod o hyd i'r deunydd, ac yr oedd gwaith twrio gan fod hwnnw wedi ymddangos mewn cyfnodolion mor wahanol i'w gilydd ag ydyw Barn a Bibby 's Hearth and Farm, a heblaw hynny yr oedd wedi paratoi llyfryddiaeth o waith Kate Roberts ar gyfer y gyfrol deyrnged a olygodd yr Athro Bobi Jones ac a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1969. Ond dengys y detholiad hwn nad yw Kate Roberts wedi bod yn segur ers hynny, ac y mae'n sicr o syfrdanu'r darllenydd cyffredin hyd yn oed yn fwy na'r llyfryddiaeth a grybwyllwyd oblegid egyr ei lygaid i weld mor helaeth ac mor amryfal y mae cyfraniad brenhines ein llenyddiaeth wedi bod drwy gydol y blynyddoedd. Bu rhaid i David Jenkins ddarllen llawer a bu rhaid iddo bwyso a mesur mwy, ac fe wnaeth ei waith nid yn unig yn drylwyr eithr hefyd yn graffus. Tyst i ragoriaeth ei waith ydyw fod o leiaf un o'i ddarllenwyr yn gallu cymeradwyo popeth a gynhwysodd, ac mai ei unig resyndod ydyw na chynhwyswyd ambell ddarn arall, megis 'Sylwadau ar Storïau Islwyn Williams' ( Ysgrifau Beirniadol, VI). Yn wir, nid oes gennyf ddim ond un feirniadaeth o bwys ac nid wyf yn siwr pa un ai'r golygydd ai'r cyhoeddwr sydd yn gyfrifol, ond y mae'n tynnu oddi wrth y gyfrol nad yw'n cynnwys cymaint ag un darlun. Daeth o wasg Christopher Davies gyfrol bur swmpus arall yn ddiweddar, y gyfrol gyntaf yng Nghyfres y Meistri (gol. Alan Llwyd), yn cynnwys ysgrifau cofiannol a beirniadol ar R. Williams