Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mari Lwyd of Pembrokeshire', Folk Life, cyf. 14 (1976). Yn yr erthygl hon ceir gwybodaeth newydd sy'n awgrymu'n gryf na ddylid cysylltu Mari Lwyd Sir Benfro â'r ceffyl (fel y tybiwyd gynt gan ysgrifenwyr megis Iorwerth C. Peate a Trefor M. Owen), a hynny oherwydd i ohebydd i'r South WalesNews, yn Rhagfyr 1919, gamddarllen 'y ganfas faich' ('the burden canvas') i olygu 'y ganfas farch' ('the canvas horse'). Cydnabyddir bellach na ellir trafod arferion gwerin yn briodol (mwy nag unrhyw agwedd arall ar lên gwerin) heb wybodaeth drylwyr o'r gymdeithas a gynhyrchodd yr arferion hynny. Da gweld Arthur ap Gwynn, felly, yn cyfeirio at erthygl Trefor M. Owen, 'Llên Gwerin Môn a'i Chefndir Cymdeithasol', J. E. Caerwyn Williams (gol.), Llên a Llafar Môn (1963), ac at erthygl Elfyn Scourfield, 'Arferion Cymdeithas Amaethyddol Tre-lech', Carmarthenshire Antiquary, cyf. 8 (1972). Yn ychwanegol at gyhoeddiadau fel y rhain, fodd bynnag, hoffwn petai cyfeiriad yn y llyfryddiaeth hefyd at y cyfrolau a ganlyn: Alwyn D. Rees, Life in a Welsh Countryside. A Social Study of Llanfihangel yng Ngwynfa (1950); David Jenkins, Emrys Jones, T. Jones Hughes a Trefor M. Owen, Welsh Rural Communities, gol. gari Elwyn Davies ac Alwyn D. Rees (1960); a David Jenkins, The Agricultural Community in South-West Wales at the turn of the Twentieth Century (1971). Byddai'n ddiddorol cymharu, er enghraifft, yr hyn a ddywedir gan T. Gwynn Jones yn ei bennod 'House and Hearth' â'r hyn a ddywedir gan Alwyn D. Rees mewn pennod sy'n dwyn yr un pennawd. Ym maes y stori werin cyfeiriodd Arthur ap Gwynn at rai casgliadau a fwriadwyd yn bennaf ar gyfer plant, megis: Aeres Evans, Chwedlau Morgannwg (1970) ac Alun Morgan, Legends of Porthcawl and the Glamorgan Coast, 'Written for the children of Porthcawl Comprehensive School' (1974). Ond ai ar hap y cynhwyswyd y llyfrau hyn, oherwydd fe gyhoeddwyd yn ddiweddar doreth o lyfrau yn cynnwys storïau gwerin ar gyfer plant, megis cyfrol Aeres Evans, Chwedlau Cymru (1975) a chyfrolau Brenda Lewis, Storïau Bro Myrddin (1968) a Straeon Arfon (1973). Nid dweud yr wyf na ddylid rhestru llyfrau plant (oherwydd fe eill llyfr plant da ym maes y stori werin fod yn llyfr i oedolion yn ogystal), ond os cynnwys llyfrau plant o gwbl mewn llyfryddiaeth o'r fath, yna credaf y dylid dethol yn ofalus iawn. Fe ellid, er enghraifft, gyfeirio at lyfrau William Rowland, Chwedlau y Cymry (1923) a Straeon y Cymry (1935), fel y gwnaeth T. Gwynn Jones at un arall o'i lyfrau, YLlong Lo (1924). 'Campus o waith, mi fuaswn i'n tybied, a'r dewisiad yn un rhagorol hefyd' dyna eiriau T. H. Parry-Williams am Straeon y Cymry. A beth am gyfrol swmpus W. Jenkyn Thomas, The Welsh Fairy Book ( 1907), a adargraffwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1957; cyfrol Gwyn Jones, Welsh Legends and Folk Tales, (Gwasg Prifysgol Rhydychen 1955); a chyfrol fechan ragorol Dewi Machreth Ellis, Llên Gwerin Sir Gaernarfon (1975)? Er 1930 cyhoeddwyd amryw byd o gasgliadau o storïau gwerin Cymru yn Saesneg, ond gwendid y mwyafrif o'r cyfrolau hyn yw i'r storïau gael eu haddasu a'u sisyrna gymaint fel eu bod yn bur wahanol i'r fersiynau Cymraeg llafar gwreiddiol. Anaml hefyd y trafferthir i nodi'r ffynonellau. Ofnaf i Arthur ap Gwynn gynnwys rhai llyfrau felly. Tipyn o syndod i mi oedd gweld cyfeirio at lyfrau fel y rhai a ganlyn mewn llyfryddiaeth ddethol i gyfrol safonol ei dad: E. M. Wilkie, Legendary Stories of Wales (1934); Ellen Pugh, Talesfrom the Welsh Hills (1968), a More Tales fromthe WelshHills(\91\); Megan Llewellyn, The Eagle of Gwrnabwy: tales from Wales ( 1970), a The Stray Cow: tales from Wales (1971). Os cynnwys yr uchod, a anghofiwyd am gyfrolau megis Gomer M. Roberts, Chwedlau Dau Fynydd (1948), a D. Parry-Jones, Welsh Legends and Fairy Lore (1953)? Cyfeiriwyd at erthygl fer Warren E. Roberts, 'Two Welsh Gypsy and Norwegian Folk Tales,' Fabula, cyf. 4 (1961), ond ni chyfeiriwyd at y gyfrol ddiddorol Welsh Gypsy Folk-Tales (1933), sef un ar hugain o storïau gwerin a gasglwyd gan John Sampson ac a olygwyd gan Dora E. Yates. A pharhau ym maes y stori werin da oedd rhestru detholiad yn Gymraeg a Saesneg o lyfrau ac erthyglau a gyhoeddwyd er 1930 ar ein chwedloniaeth gynnar. Cyfeiriwyd, er enghraifft, at ddau o gyhoeddiadau Ifor Williams: Lectures on Early Welsh Poetry (1970), a 'Gwyllon, Geilt, Wyll,' BwletinyBwrddGwybodau Celtaidd, cyf. 1 (1921-3). Ond os cynnwys cyhoeddiadau fel y rhain, oni ddylid hefyd fod wedi cynnwys rhai o gyhoeddiadau eraill Ifor Williams sy'n uniongyrchol berthnasol i gynnwys Welsh FolMore and Folk-Custom megis: Hen Chwedlau (1949); PedeirKeinc y Mabinogi (1951); a Chwedl Taliesin (1957)? Byddai'n fanteisiol hefyd cyfeirio at gyfrol A. O. H. Jarman, Chwedlau Cymraeg Canol (1969, ail arg.). Ymdrinnir yn bur helaeth gan T. Gwynn Jones â chwedl Ogof Arthur, ond un erthygl bwysig nas