Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

awr. Atgynhyrchwyd hi yn union fel yr oedd yn yr argraffiad cyntaf, gan gynnwys y rhestr o ffynonellau llafar, llawysgrifol a phrintiedig a'r 'glossary of terms'. Ar gyfer yr adargraffiad adlun hwn ychwanegodd Athur ap Gwynn ragymadrodd 24 tudalen, sy'n cynnwys nodyn bywgraffyddol byr am T. Gwynn Jones a gair am y modd yr enynnwyd ei ddiddordeb mewn llên gwerin ac am gefndir cyhoeddi'r gyfrol. Prif gynnwys y rhagymadrodd, fodd bynnag, yw'r 'bibliographical statement' fesul pennod. Yna, yn dilyn, ceir rhestr bur faith o lyfrau, cylchgronau ac erthyglau a gyhoeddwyd, gan fwyaf. wedi 1930. a'r cyfan yn cadarnhau yr hyn a ddywedir ar dudalen xii: During the half-century since 1930 there have been fundamental changes in Wales and in Welsh scholarship and the general approach to folklore studies. Er na chytunaf â phopeth a ddywedir gan Arthur ap Gwynn, ysgrifennodd ragymadrodd gwerthfawr. Buddiol, er enghraifft, yw cael ymdriniaeth gryno â phwysigrwydd cyhoeddi llyfrau megis: Evan Isaac, Coelion Cymru (1938); Francis Jones, Holy Wells of Wales (1954); F. J. North, Sunken Cities (1957); a Trefor M. Owen, Welsh Folk Customs (1959). Y mae'n rhaid imi, fodd bynnag, nodi un feirniadaeth: trueni mawr iddo golli cyfle i gyfeirio'n fyr at y diddordeb cynyddol sydd yng Nghymru ers rhai blynyddoedd bellach mewn cofnodi ac astudio llên gwerin. Gosodir cystadleuthau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac eisteddfodau taleithiol a lleol yn gyson. Yn ddiweddar cafwyd rhai myfyrwyr prifysgol yn dewis pynciau ym maes llên gwerin yn destunau ymchwil ar gyfer graddau uwch. Ac, yn bennaf oll, bu llên gwerin yn rhan ganolog o faes ymchwil Amgueddfa Werin Cymru er pan sefydlwyd hi yn 1947. Syndod a siom, yn wir, oedd gweld na chrybwyllirogwblygwaithawneirganyr Amgueddfa. Y mae'n wir y nodir amryw gyhoeddiadau a baratowyd gan aelodau o'r staff, ond mewn rhagymadrodd o'r fath dylid o leiaf fod wedi cyfeirio'n fyr at y defnyddiau helaeth yn dapiau, llawysgrifau, lluniau, ffilmiau a gwrthrychau sydd ar gael bellach yn yr Amgueddfa Werin at wasanaeth efrydwyr llên gwerin. Cyfeiriwyd yn y rhagymadrodd at ffurfiau swyddogol cywir trefi megis Conwy, Tywyn a Llanelli, ond llithrodd Arthur ap Gwynn yntau drwy ysgrifennu 'Caernarvon'. Ac onid yw'n bryd i bawb bellach ysgrifennu 'Llandaf', yn hytrach na 'Llandaff', boed mewn cyd-destun Cymraeg neu Saesneg? Yn yr un modd, dylai pawb gydnabod ffurfiau Cymraeg cywir enwau personau fel yr unig ffurfiau cywir. At Owain Glyn Dwr y cyfeiriodd T. Gwynn Jones, ond y ffurf a geir gan ei fab, ysywaeth, yw Owen Glyn Dwr, er iddo yntau gyfeirio at Owain Lawgoch yn gywir. A throi yn awr at y llyfryddiaeth, afraid dweud nad tasg fechan oedd ei pharatoi. Er 1930 cyhoeddwyd cruglwyth o ddefnyddiau ar destunau pob un o'r penodau yn Welsh Folklore and Folk-Custom, a'r gamp ydoedd gwybod beth i'w gynnwys a beth i'w wrthod. Er mwyn paratoi llyfryddiaeth gytbwys, safonol, yr oedd angen gwybodaeth drylwyr o'r holl faes, neu ddibynnu'n helaeth ar gyfarwyddyd ysgolheigion eraill. Yn bersonol, fe fyddwn i wedi hepgor amryw o'r eitemau ac ychwanegu eraill sy'n fwy safonol neu berthnasol. Cynhwyswyd ychydig lyfrau a gyhoeddwyd cyn 1930, ond nas cyfeiriwyd atynt gan T. Gwynn Jones. Un ohonynt yw James Motley, Tales of the Cymry (1848). Ond os cynnwys llyfr fel hwn, oni ddylid hefyd, yn sicr, gynnwys llyfrau megis: Joseph Jacobs, Celtic Fairy Tales (1892) a More Celtic Fairy Tales (1894); Marie Trevelyan, Folk-Lore and Folk-Stories of Wales (1909); J. Ceredig Davies, Folk-Lore of West and Mid-Wales (1911); a Myra Evans, Casgliad o Chwedlau Newydd (1926) un o'r casgliadau gorau o chwedlau Cymraeg? Cyfeiriwyd, fel y gellid disgwyl, at gyfrol arloesol Iorwerth C. Peate, The Welsh House. A Study in Folk Culture (1940), ond i'r sawl a fynn wybod rhagor am yr hyn a ddywed T. Gwynn Jones yn ei bennod 'House and Hearth' dylid hefyd gofio am gyfrol fawr Peter Smith, Houses of the Welsh Countryside (1975). Ar bwnc arferion gwerin sy'n gysylltiedig â marw a chladdu, cyfeiriwyd, er enghraifft, at erthygl Frank Price Jones, 'An Anglesey Death Rite', Gwerin, cyf. 2 (1959), ond o gofio cyn lleied a ysgrifennwyd am yr wylnos yng Nghymru buddiol fyddai cyfeirio yn ogystal at erthygl gynhwysfawr Catrin Stevens, 'The Funeral Wake in Wales', Folk Life, cyf. 14 (1976). Yn yr un modd da fyddi cael cyfeiriad at gyfrol Catrin Stevens, Arferion Caru (1977), sy'n ategiad gwerthfawr i bennod T. Gwynn Jones 'Courtship, Marriage and the Family'. Ar bwnc y Fari Lwyd cyfeiriwyd at nodyn byr Iorwerth C. Peate 'Mari Lwyd Láir Bhán', Folk Life, cyf. 1 (1963), ond ni chyfeiriwyd at ei erthygl bwysicach: 'Mari Lwyd: A Suggested Explanation', Man cyf. 43 (1943). Cyfeiriwyd hefyd at erthygl Jane McCormick, 'The Identity of Mari Lwyd', Poetry Wales, cyf. 4 (1948). Ond os cynnwys yr erthygl hon, yna, yn sicr, fe ddylid cynnwys hefyd erthygl D. Roy Saer, 'The Supposed