Er hynny, llwyddodd yr awdur yn hollol bendant i gyfleu i ni amheuon a phetruster a gwamalrwydd ei gyfnod, sef cyfnod Catrin ei hun. 'Teimlo fy mod i rhwng dau gynhaeaf,' meddai Catrin mewn un man, a dyma'r allwedd i'r nofel. Darlun o Gymru deufyd: y ffydd newydd wedi ei derbyn ond heb ei deall a chymhlethdod y ddwy gredo yn brigo; y moesau a'r ffyrdd estron yn denu a hudo, ond, ar yr un pryd, hualau Cymreictod yn gwasgu'n dynn. Ac y mae Catrin hithau yn symbol o Gymru. Yn ferch unigol gyda'i nwydau a'i chwantau ei hun, ond eto yn eiddo i'w theulu; yn blentyn ar fin aeddfedrwydd ac argyfwng yr arddegau ac awydd arbrofi yn gryf ynddi; yn ferch mewn cymdeithas a roddai i wraig statws is nag eiddo ei gŵr, ond a osododd ferch ar yr Orsedd. Dyna brif neges y nofel. Dywed John Salesbury mewn un man fod ei wraig o'r diwedd wedi croesi'r trothwy i fyd realiti gwraig uchelwr,' a throthwy efallai yw arfbais y nofel. Trothwy Catrin a throthwy ei gwlad. Fe fyddai'r nofel yn sicr yn gryfach creadigaeth pe bai Cymru a'i phroblemau yn llai amlwg a llais croyw Catrin o Ferain i'w glywed yn uwch. Aberystwyth. Llinos BEVERLEY Smith. H. V. Morris-Jones, Y Meddwl Gwyddonol a'r Efengyl (Llyfrfa'r M.C.). A yw gwyddoniaeth a chrefydd o angenrheidrwydd yn elynion i'w gilydd? Beth yn hollol yw'r berthynas rhyngddynt? I ba raddau y mae gwyddoniaeth yn tanseilio'r Beibl? I ba raddau y gall hi wneud cymwynas â'r meddwl crefyddol? Dyna rai o'r cwestiynau y gwnaeth H. V. Morris-Jones ymdrech deg i'w hateb yn ei Ddarlith Davies am 1964, a balch dros ben ydym fod y darlithydd, yn ystod cyfnod maith o wendid a gwaeledd, wedi medru ychwanegu at y ddarlith wreiddiol a sicrhau inni'r cyfraniad pwysig yma i'r drafodaeth. Trist meddwl na chafodd yr awdur weld cyhoeddi ei ddarlith. Tristach fyth sylweddoli fod Cymru, ym marwolaeth H.V.' wedi colli meddyliwr praff a phroffwydol. Dywed yr awdur nad diddordeb academaidd a barodd iddo ddewis ei bwnc, ond ei ei brofiad fel gweinidog yr Efengyl yn gweld pobl ifanc yn ymdeimlo â'r anghysondeb rhwng yr hyn a ddysgent mewn ysgol a choleg a llawer o'r hyn a ddysgid iddynt gan rieni ac athrawon ysgol Sul. Ei bwrpas sylfaenol yw dangos nad oes dim yn natur crefydd nac yn natur gwyddoniaeth i gyfiawnhau'r ysgaru a fu rhyngddynt: 'Nid yw cofleidio'r Ffydd Gristionogol yn golygu bod rhaid i ddyn beidio â meddwl yn wyddonol am bethau o hynny ymlaen.' Wedi sôn yn y bennod gyntaf­sy’n enghraifft dda o grynhoi celfydd-am y tair carreg filltir yn hanes dyn, a gysylltir ag enwau Galileo, Darwin a Freud, a honni nad oes dim yn y datblygiadau hyn i beryglu ffydd, gan nad ysgrifennu cosmoleg a hanes (yn yr ystyr ecsact) oedd bwriad ymwybodol ysgrifenwyr y Beibl, ond egluro actau achubol Duw,' y mae'r awdur yn trafod nodweddion y meddwl gwyddonol, sef rhyddid, ystwythder, unoliaeth, ysbrydolrwydd, gwireddiad a rhagfynegiad. Bydd rhai, efallai, yn synnu gweld ysbrydolrwydd' ymhlith y nodweddion, ond honnir gan yr awdur fod 'yna elfen ddi-wyddonol yn dod i brofiad y gwyddonydd pan ddaw ef i foment golau y darganfod,' a sonnir am farn Einstein fod elfen grefyddol yn y syndod sy'n meddiannu gwyddonydd pan sylla ar ddeunydd a phatrwm y greadiageth.' Trafodir yn y drydedd bennod y ffin rhwng gwyddoniaeth a chrefydd, a rhybuddir rhag y perygl o wahanu'n rhy ffyrnig rhyngddynt.' Ar y llaw arall, dangosir y pwyig- rwydd 'o wahaniaethu'n glir,' gan fod 'eu categorîau, neu eu patrymau deallol, vn wahanol.' Camgymeriad ydi rhoi ateb gwyddonol i gwestiwn diwinyddol. Camgymeriad hefyd ydi rhoi ateb diwinyddol i gwestiwn gwyddonol, fel y gwnaeth Newton wrth ddod â llaw Duw i mewn i'w ddamcaniaeth pan fethodd esbonio pam yr oedd y daear yn troi ar ei hechel. Y duedd yma a roes fod i'r syniad o 'Dduw'r bylchau/ a drafodwyd mor olau gan Bonhoeffer, gyda'r bylchau'n mynd yn llai ac yn llai o hyd, a Duw'n graddol ddiflannu o'r golwg fel y cynyddai gallu'r gwyddonydd i esbonio. Y camgymeriad mawr yw tybio fod unrhyw esboniad gwyddonol yn dweud y gwir i 9Yd am y gwrthrych a astudir. Dangosir hyn yn glir pan gyfyd yr awdur y cwestiwn