Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gwaetha'r dirywiadau a'r colledion y clywir amdanynt ar bob llaw, y mae cyfrol o'r natur hon yn dod â'r gair iach' i'r meddwl. Mae ynof duedd gyson i ddyfynnu ymadrodd a glywais o enau G. M. Ll. Davies adeg y dirwasgiad mawr a'i addasu i'm dibenion fy hunan os bydd arwyddion o anobaith a digalondid o'm cylch ymhob man, sef Ynysoedd Gobaith '-hynny yw, ynghanol moroedd o ddigalondid. Y mae'r gyfres gyfrolau yma'n haeddu'r ymadrodd yn llawn-nid yn unig oherwydd ansawdd y cynnwys, ond ar ben hynny, y cysondeb, y peth diflino, a beth bynnag yw'r gair sy'n golygu'r gwrthwyneb i 'di-ddal.' Fe allwn sôn am amrywiaeth o fath arall, sef yr amryw gyfnodau yn hanes ein llenyddiaeth a gynrychiolir gan yr erthyglau--cyfnod y cywyddwyr, cyfnod Cymraeg Diweddar Cynnar, y cyfnod modern a'r cyfoes, ac nid o lenyddiaeth Gymraeg yn unig y daw'r pynciau. Gobeithio y bydd y golygydd a'r awduron yn fodlon imi ddweud un peth, sef am bwysau' yr erthyglau. Efallai mai myfi sy'n camsynied, ond yr wyf i er pan ddechreuodd y gyfres wedi ceisio dirnad pwy oedd darllenwyr yr amryw benodau: myfyrwyr Cymraeg y Colegau Prifysgol a'r Colegau addysg a chyda nhw, myfyrwyr y chweched dosbarth a'u hathrawon a lleygwyr deallus a chraff, heb fed yn academaidd ond yn fawr eu diddordeb mewn llenyddiaeth, er enghraifft, aelodau o'r amryw ddosbarthiadau allanol a mynychwyr y Babell Lên. Gan mai cyhoedd cymysg fel y rhai a nodais yw ein darllenwyr, onid yw ffocws rhai o'n cyfranwyr yn anaddas, wrth fod arddull a diwyg a 'golwg' allanol y penodau'n rhy ysgolheigaidd? Teimlo'r wyf fod eisiau ysgafnu'r defnydd weithiau; nid bod yn syml ac yn fabanaidd elfennol yw hynny; cadwer yr holl dystiolaeth ysgolheigaidd, wrth reswm, pryd y byddir yn cyhoeddi yn y cylchgrawn a fwriedir ar gyfer ysgolheigion ac arbenigwyr, ond y mae perygl i apparatus yr ymchwil darfu'r lleygwr deallus a pheri i'r darpar fyfyriwr newid un o'i bynciau gradd, efallai. Cofiwch chi rai ifainc am hanes y glowr diwylliedig a aeth ryw brynhawn Sadwrn i siop lyfrau Morgan a Higgs i brynu gramadeg mawr John Morris-Jones: gobeithio y bydd cyhoeddwyr y TRAETHODYDD yn fodlon argraffu'r hyn a ddywedodd y glowr pan geisiodd ddarllen y gramadeg, sef 'Aljebra myn jiawl i!' Abertawe. T. J. MORGAN. R. CYRIL Hughes, Catrin o Ferain (Gwasg Gomer, 1975), tt. 220..e2.25. Os yw llenyddiaeth Cymru yn brin o gwbl, mewn llenyddiaeth bendefigaidd y mae'n brin. Rhyfedd dweud hyn a barddoniaeth yr Oesoedd Canol yn un doreth o ganu uchelwrol, ond wedi hynny daw'r mudandod. Ychydig o sgrifennu am uchelwyr a fu yn y canrifoedd canlynol. Amheuthun o beth felly yw dyrchafu un o ferched yr haen uchaf a gweu o'i chwmpas ddeunydd nofel. 'Mae hi'n haeddu cael bod mor enwog â neb o ferched Cymru,' meddai'r awdur, ac i'w ddychymyg ef y dylid bellach briodoli enwogrwydd Catrin o Ferain. Felly, wrth gwrs, y dylai fod oherwydd nofel ac nid dogfen hanesyddol sydd yma, ac ar dermau nofel y dylid barnu'r llyfr. Er hynny, y mae'r awdur yn hollol deg, bron y gellid dweud yn rhy deg, a'i ffynonellau. I'r sawl a fyn chwilio, y mae dogfennau teulu Lleweni ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol, ond yn fwy na hynny y mae ôl darllen manwl ac eang yn y cyfnod ar y nofel. Ar un llaw, fe rydd hyn naws a chywirdeb i'r stori; ar y llaw arall y mae yna berygl weithiau i orgyfoethogi'r cynllun â sylwadau neu hanesion sy'n tynnu'r darllenydd oddi ar y trywydd. Cyfleu yn hytrach na mynegi yw gwir gamp y nofelydd hanesyddol, os nad yr hanesydd hefyd, a thybed nad yw Mr. Hughes, yn ei awydd teg i sgrifennu nofel gyfoes gywir yn gorliwio'r cyfnod, a cholli golwg ar y cymeriad. Er enghraifft, ar ar d. 73, wrth ddisgrifio'r wledd, cyfeirir at Ruffudd Hiraethog, Gutun Owain, Dafydd Nanmor; Simwnt Fychan, William Cynwal a William Llyn-clwstwr o feirdd sydd braidd yn anodd ei lyncu ar un darlleniad, ac ar d. 194, mewn cyswllt arall, daw Anthony Kitchen, Thomas Goldwell, Richard Davies, Henry Morgan a Gruffudd Robert i gyd i mewn i'r sgwrs. Credaf y byddai'n well nofel heb yr ysbrydion amherthnasol sy'n dod i'r amlwg o dro i dro.