yn trarhagori ar y cyfansoddwyr eraill i gyd, a'i waith yn unigryw brydferth, gysurlon a chyffrous." Bwriadai, petai'n cyrraedd y nefoedd, holi'n gyntaf oll am Mozart cyn holi am yr holl ddiwinyddion enwog. (Bydd cael hyd i'n ffefrynnau ni yr ochr draw, gyda llaw, yn digon o dasg. Gobeithio fod cyfeiriadur digonol i'w gael yn swyddfa'r Angel Cofiadurol.) Y rheswm diwinyddol a oedd gan Barth am glodfori Mozart fel hyn oedd fod hyfrydwch cread Duw i'w gael yn ei waith. Rheswm go Belagiaidd yw hwn. Syn gan Harri Williams na fyddai Barth yn troi'n hytrach at Bach. Ei sylw yw: Rhyfedd yn wir yw gweld Barth o bawb fel pe bai'n gosod y Cread o flaen y Cymod!' Y gwir yw mai gŵr tra naïf oedd Barth y tu allan i'w faes arbenigol. Ysbardunodd hyn oll i'n hawdur roi .sylwadau gwerth eu cael ar Mozart, Bach, Haydn a Beethoven. Mae'n debyg fod Handel yn rhy theatraidd iddo ef ac i Barth! PENNAR DAVIES. J. E. CAERWYN Williams (Gol.), Ysgrifau Beirniadol, ix (Gwasg Gee, 1976), tt. 425. £ 3.75 Pan ymddeola prif weinidog caiff y cyfle yn ôl arfer neu draddodiad y wlad i ddewis rhai i gael eu dyrchafu'n arglwyddi neu eu hurddo'n farchogion. Fe ddylwn innau fod wedi cael yr un cyfle pan ymddeolais y llynedd i ddewis rhai a haeddai anrhydeddau, yn ôl fy safonau i a'm ffordd i o farnu teilyngdod-Beirdd byd barnant wŷr o galon. Y mae gennyf un cymhwyster, ar wahân i'm gallu i ddewis, sef y ddawn i lunio teitlau neu ddolenni anrhydeddus. Fe dreuliodd Ifor Williams fore cyfan yn fy ystafell ym mhen-swyddfa'r BrifysgoJ un tro, a rhywbryd yn ystod y bore hwnnw pryd yr esgeulus- wyd gwaith gweinyddol y Brifysgol yn llwyr, fe luniais deitlau i Ifor erbyn yr adeg y câi fynd i Dy'r Arglwyddi, yn ôl fy newis i. Yr oedd Ifor wrth ei fodd. Ni allaf gofio'r holl awgrymiadau-Lord Gododdin of Catraeth, dyna un o'r teitlau, ond fy newis cyntaf i a'r un a blesiai'r 'arglwydd' ei hun fwyaf oedd Lord Gloss of Computus Fragment. Yr un a ddewiswn i'n gyntaf yn awr yn fy rhestr o wŷr o galon fyddai Caerwyn Williams; mae'n anodd sôn am ei deilyngdod heb ymddangos yn sebonllyd iawn, iawn, ond bydd y ffeithiau'n ddigon. Peidiwn â chyfrif ei waith yn y Coleg ac yn y Bwrdd Celtaidd ac ynglyn â Geiriadur y Brifysgol; ystyriwn ei waith golygyddol yn unig: y mae'n olygydd i'r TRAETHODYDD, i Studia Celtica, ac i'r Ysgrifau Beirniadol. Yn ôl priod-ddull ein ty ni, dyna'r dyn mwyaf golygus yng Nghymru. Y mae'r rhifyn sydd newydd ddod i law o Studia Celtica yn gyfrol anferth o 504 o dudalennau a nifer yr awduron i'r amryw benodau yn agos i ddeugain. Y mae un ar bymtheg o feirniaid yn y nawfed gyfrol o'r Ysgrifau Beirniadol blynyddol, a'r tudalennau'n 425. Y mae tua phymtheg o benodau ymhob cyfrol ac os yw syms ysgol elfennol y GIais yn gweithio fel y buon-nhw, y mae hynny'n gyfanswm o 135 o benodau sylweddol, a byddai pawb o'r cyfranwyr ar hyd y blynyddoedd yn fodlon imi ddweud mai taeredd y golygydd biau'r clod pennaf am hyn, a'i allu i ddod o hyd i awduron neu ysgolheigion ymhlith y do newydd a'u hysgogi a'u denu i droi darnau o'u traethodau M.A. neu Ph.D. yn benodau darllenadwy. Yr wyf wedi bod yn meddwl am The Caerwyn of Curwen, ar batrwm The Mackintosh of Mackintosh. A warafunai neb i mi roi'r teitl Arglwydd Olygydd o'r Waun, ar ben Barwn Celtica? 'Wn i ddim yn y byd sut y dylwn i adolygu'r gyfrol newydd hon. Yr wyf wedi colli fy llaw rywfodd yn fy hen ddyddiau. Yr wyf wedi darllen pob pennod ond y mae meddwl am adolygu'r gyfrol gyfan fel petai disgwyl imi adolygu Siop Harrods. Nid am nad oes gennyf ddim byd craffach i'w ddweud yr wy'n sôn am amrywiaeth yr awduron o ran oedran a phrofiad. Y mae pennod gan Saunders Lewis ('Gyrfa Filwrol Guto'r G1>rn') sy'n bedwar ugain a thair eleni ac sy wedi cyhoeddi ugeiniau os nad cannoedd o erthyglau; mae eraill megis Miss Gwerfyl Pierce Jones a Miss Siân Megan a Mr. Dafydd Ifans sydd tua phymtheg mlynedd a deugain yn iau, a'u penodau gyda'r pethau cyntaf i weld golau dydd. A rhwng y ddau begwn oedran v mae awduron sy'n deugain, rhai sy'n hanner cant: ni welaf i neb sy'n drigain ond y golygydd ei hun; ac yna y mae dau sy'n ddeg a thrigain. Y mae'r cydbwysedd hwn yn galondid i mi- er