Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'r deg pennod arall yn rhoi cip inni ar bynciau fel cyfriniaeth, diwinyddiaeth proses, dirfodaeth, rhyddfrydiaeth ddiwinyddol, a her y meddwl gwyddonol. F'argraff i yw mai mewn diwinyddiaeth proses y gwêl Mr. Humphreys obaith ac mai yno y mae ei gydymdeimlad mawr. Hoffwn awgrymu y dylid darllen pennod Y Gred mewn Duw Personol" ochr yn ochr â phennod ar yr un testun yn Gwirionedd y Gair, Gwilym H. Jones, sy'n wynebu'r pwnc o safbwynt y gred mewn Rhagluniaeth. Mae'n codi'r cwestiwn, pa mor bwysig yw'r gred mewn Rhagluniaeth i adfer ystyr heddiw ac ym mha fodd y mae sôn yn ystyrlon am ragluniaeth yn wyneb dryswch ac anhrefn y byd heddiw. Mae'n amlwg fod John Oman wedi cael dylanwad mawr ar y darlithydd yn ôl y mynych gyfeiriadau at ei lyfrau. Nid yw'n amherthnasol sylwi fod pennod ar John Oman yn Y Crist Cyfoes gan yr Athro Harri Williams a'i fod yntau â mynych gyfeiriadau ato yng ngweddill ei gyfrol. Mae Mr. Humphreys yn drwm ei ddyled, yn arbennig yn y penodau olaf, i John Maquarrie, a hawdd casglu fod ganddo barch mawr i'w farn. Enw arall sy'n britho'r ddarlith yw eiddo J. R. Jones. Mater o chwaeth yw peth fel hyn, ond tybed na ellid bod wedi neilltuo pennod iddo ? Wrth gwrs, dylai ef gael astudiaeth lwyr a dofn yn Gymraeg, yn un peth am y byddai'n arwain at ddiwinyddiaeth cenedlaethol- deb," y mae "Gwinllan a Roddwyd yn ymgais i lenwi'r bwlch. Rhoddai gyd-destun Cymreig i ddiwinyddiaeth fel y mae cyd-destun diwinyddiaeth ryddhad yn Dde Americanaidd. Efallai y caiff rhai y ddarlith yn flin i'w darllen, oherwydd bod rhediad yr ymresymiad yn cael ei dorri, "fel y dywaid ac yna'n troi at nodiad-diwedd-pennod i gael ffyn- honnell y dyfyniad. Mae hyn yn arbennig o wir pan nad yw'r gyfrol ond 74 o dudalennau. Fe ddywedwn i mai'r rhannau gorau yw'r rheini pan yw'r awdur yn llefaru â'i lais ei hun megis. Gwerth y gwaith yw ei fod yn dwyn i gwmpas byr gyfoeth o feddyliau at wasanaeth rhai nad oes ganddynt ddycnwch a nwyd ysgolheigaidd yr awdur. Deuthum ar draws rhai camgymeriadau­-‘tryw’ yn lle 'trwy,' t. 30, A.M.' yn lle A. N. Whitehead/ t. 45, priodoli dywediad (5) ar d. 45 i Norman Pittinger, a nodyn-diwedd-pennod, t. 48, yn ei briodoli i Teilhard de Chardain. Mae'r ôl-nodiadau hyn ar dt. 47-48 yn ddryslyd i mi. A ddylai (2) e.e., fod lle mae (3)? Mae rhai dyfyniadau (e.e., t. 42 gan Karl Rähner, t. 72 gan William Temple) na nodir o ba le y deuant. Mae dyfyniadau eraill (t. 41 gan Paul Tillich, t. 60-61 gan C. H. Dodd, t. 67 gan Murdo Macdonald a D. M. Baillie, t. 60 gan John Maquarrie) wedi eu cyfieithu, tra y mae'r mwyafrif o'r dyfyniadau eraill wedi eu gadael yn Saesneg, gan gynnwys Maquarrie. Byddai'n well pe byddai'r cyfan wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Fodd bynnag, haedda'r awdur ddiolch am ei lafur blynyddoedd ym maes diwinydd- iaeth, ei ddatganiad clir o'i gred yng ngwerth ei weithgarwch, a'i ymgais loyw i gael eraill i ymddiddori yn yr wyddor fawr hon. Llandudno. E. R. LLOYD-JONES. CYWIRIAD Ymddiheuraf i'r Parch. E. R. Lloyd-Jones am fod ei enw wedi mynd yn E R Lloyd-Williams fel awdur yr erthygl «Crist a Chymdeithas yn ein rhifyn Ionawr τ977.- GOLYGYDD.