'Rhyngu byw sydd yn y testun, gwall argraffu amlwg am rhygnu byw.' Ond beth am yn glain o ferch'? Gan mai glain yw'r ffurf gysefin hawlir y treigliad meddal— yn lain o ferch,' er bod hynny'n swnio'n chwithig hefyd. Hyderaf y caiff y bardd emynydd diwyd hwn y gefnogaeth a haedda. DERWYN JONES. JAMES HUMPHREYS, Yr Argyfwng Cred (Darlith Pantyfedwen, 1971. Cyhoeddwyr: T3 John Penry. Tt. 74). Pris: £ 1.00. Mae tri pheth hynod ym mhennawd yr adolygiad yma, darlith yng nghyfres Pant- yfedwen, mai Tŷ John Penry yw'r cyhoeddwyr, ac mai James Humphreys yw'r darlithydd. Mae Ymddiriedolaeth Pantyfedwen wedi noddi darlithiau diwinyddol ers rhai blynydd- oedd bellach a chyfrannu'n helaeth felly i fywyd a meddwl crefyddol Cymru. Mae'n weddus imi gydnabod y cyfraniad pwysig yma. Tŷ John Penry a gyhoeddodd y rhan fwyaf o ddarlithoedd Pantyfedwen, os nad y cyfan ohonynt, a da yw manteisio ar y cyfle i'w chydnabod hithau am ei chymwynas i etifeddiaeth Gristnogol a chenedlaethol ein gwlad. Gwyr pob Presbyteriad, ac yn arbennig aelodau Undeb Athrofa'r Bala, am ysgolheictod Mr. Humphreys a'i ddarllen eang ar hyd y blynyddoedd. 'Rydym yn falch o'r herwydd weled cyhoeddi'r ddarlith hon, am ein bod trwy'r mynegiant yma o falchder, yn mynegi parch at Mr. Humphreys a'n diolch iddo am ei arweiniad. Yr un pryd ag y cefais y gyfrol hon i'w hadolygu, prynais Y Meddwl Gwyddonol a'r Efengyl gan y diweddar Barch. H. V. Morris-Jones, a sylweddolais fod pulpud Cymru wedi cael meddyliau praff iawn i'w wasanaeth. Tybed a yw'n llwyddo i ddenu 'run praffter heddiw, a thybed a oes gan fy nghenhedlaeth i ddiddordeb a phraffter James Humphreys a H. V. Morris-Jones a'u tebyg? Deuddeg pennod sydd i'r gyfrol yn dilyn ei gilydd yn daclus a naturiol, ac mae'r gyntaf (Rhagymadrodd) yn dweud wrthym beth yw'r argyfrwng cred, nad yw Cristnogion Cymru yn meddwl am ystyr a chynnwys eu Ffydd. Honiad yr awdur yw mai "dyna yw un achos ein gwendid a'n haneffeithiolrwydd yn yr argyfwng yr ydym ynddo yn awr." Mae tri ymateb posib i'r argyfwng, ymlyniad ceidwadol wrth gyfundrefn draddodiadol o gredo," a "gwrthodiad radicalaidd o gynnwys traddodiadol y Ffydd," a llwybr canol rhwng y ddau eithaf. Y trydydd llwybr a gymer y darlithydd, sy'n awgrym o gytbwysedd barn a gwerthfawrogiad o'r gwahanol syniadau a drafodir. Mae'r bennod olaf (Y Diweddglo) yn dod yn ôl at yr angen yma i feddwl yn fwy o ddifrif am gynnwys ein Ffydd, ac am y sefyllfa a wynebwn yn y byd cyfoes." Mae'n gosod diwinyddiaeth yng nghefndir bywyd a gwaith yr Eglwys Gristnogol. Yn y cyswllt yma hefyd, mae'n werth sylwi ar y cyflwyniad o'r awdur ar glawr y gyfrol, ei yrfa addysgol ym Mangor a Rhydychen a'r Bala, a meysydd ei weinidogaeth yn Wallasey, Bae Colwyn, Rhosllannerchrugog, Llanelwy a Glan y Fferi. Mae'n aelod yn awr ym Methel, Rhosesmor, eglwys ei faboed ac eglwys y buasai ei dad yn flaenor ynddi am dros hanner can mlynedd." Mae diwinyddiaeth yn llawforwyn yr eglwys a mynnodd Mr. Humphreys gadw at ei ddiddordeb diwinyddol ac ysgolheigaidd fel anadl einioes ei weinidogaeth faith ac anrhydeddus. Bwriad Pannenberg," meddai R. J. Neuhaus, fel Barth yw bod yn ddiwinydd eglwysig' sy'n ei ystyried ei hun yn gyfrifol i'r traddodiad di-dor o fyfyrdod Cristionogol" (Theology and the Kingdom of God, t. 15). Y gwahaniaeth rhwng Barth a Pannenberg yw fod yr olaf yn credu fod yr eglwys yn rhan o gymundod ehangach. Nid diwinyddiaeth yn tyfu mewn academiaeth yw eiddo James Humphreys eithr yn tyfu o'i gonsyrn fel bugail a bagad ei ofalon, a gwyr hefyd fod gan bob Cristion waith yn y frwydr am enaid cymdeithas. Mae un peth yn codi pan ddywaid y darlithydd ym mhennod 12, mai un peth a adfywiai'r eglwysi yw cael nifer o bobl ynddynt i feddwl o newydd am fywyd yng ngoleuni dysgeidiaeth y Beibl ac ymroi i astudio gweithiau ysgrifenwyr cyfoes. A yw'n dweud mai adnewyddiad diwinyddol yw amod adnewyddiad eglwysig? Amcan Mr. Humphreys yw cadw cnewyllyn byw deallus o fewn yr eglwysi, eithr onid oes perygl dweud fod diwinyddiaeth yn dod o flaen yr Efengyl, ac onid adfywiad eglwysig a sicrhai ymroad mewn diwinydda?