D. EIRWYN MORGAN. Bedydd Cred ac Arfer (Gwasg John Penry). £1. Yn y gorffennol 'doedd llawer ohonom ddim yn rhyw boeni'n arw yngh- ylch y sacrament o fedydd. Dilynem arfer ein henwad a gwnaem yr hyn a ddisgwylid gennym gan rieni a swyddogion eglwysig. Credem fod y seremoni o fedyddio plant bychain yn un brydferth, ac yn un hynod o arwyddocaol i'r rhieni, a lled obeithiem ei fod yn dwyn bendith i'r eglwys, i'r rhieni, a hwyrach i'r baban ei hun. Gwrthodem yn chwym y syniad Awstinaidd fod y baban yn sicr o fynd i uffern pe byddai farw heb gael ei fedyddio, ond ar wahân i hyn 'doedd gennym ni ddim argyhoeddiad eryf y naill ffordd na'r llall, a 'doeddem ni ddim yn pendroni ynglŷn â diwinydd- iaeth y weithred na'r seiliau ysgrythurol drosti. Digon i ambell Fethodist Calfìnaidd oedd focl yr Hyfforddwr a'r Gyffes Ffydd o'i phlaid. Tuedd eraill oedd gwadu fod i unrhyw ddefod bwysigrwydd hanfodol ac nad oedd hi'n werth y drafferth i dorri ar draws arferiad digon swynol a llesol. Ond daeth tro ar fyd, ac erhyn hyn gorfodir pawb ohonom i ystyried o newydd, ac ystyried yn ddwys. holl oblygiadau'r hyn a wnawn wrth fedyddio plant bychain. Darllenwyd am offeiriaid yn Eglwys Loegr yn gwrthod bedyddio. Clywyd fod 0 leiaf un o'n heglwysi ni yn y De na fu bedyddio ynddi am gyfnod (a thrwy hynny fe ordeiniwyd yn ddiweddar yn weinidog yn ein plith un na chafodd ei fedyddio!) Ar y llaw arall dyma rai o'n gweinidogion uchel-Bresbyteraidd (dylanwad Rhydychen amynt?) yn dech- ran gosod pwys mawr ar fod y rhai a dderbyniwyd yn gyflawn aelodau gan- ddynt wedi eu bedyddio—yr hyn nad oedd llawer ohonom wedi poeni dim yn ei gylch. A'r ergyd oedd dod i ddeall fod Karl Barth o bawb, ffefryn y Calfiniaid hrwd, yng nghyfrol olaf ei Dogmatik, yn dadlau'n gryf yn erbyn bedyddio babanod. ac yn ymosod ar Luther a Calfin am ei amddiffyn a'i gyfreithloni. Eithr yr hyn, yn fwy na dim, sydd wedi'n gorfodi i roi ystyriaeth ofalus i'r holl bwnc yw'r trafodaethau ecwmenaidd. Mewn rhai rhannau o'r hyd llwyddwyd i sefydlu enwadau unedig sy'n cydnabod bedydd babanod a bedydd credinwyr. Buwyd yn trafod y mater yng Nghymru ond methwyd à chytuno. Ac yn awr dyma'r Eglwyswyr a'r Anghydffurfwyr yn trafod y Cyfamodi, a'r Eglwyswyr yn pwyso arnom i gydnabod pwysigrwydd y bedydd a phwysigrwydd cael mesur o gytundeb ar hanfodion bedydd. Os daw'r Eglwys Unedig i fod, byddwn yn cydnabod aelodau'n gilydd. a phwysig yng ngolwg yr Anglicanwyr yw fod pob aelod o'r enwadau yn aelod mewn gwirionedd, hynny yw. wedi'i fedyddio à dŵr yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân. Digwyddiad o bwys, felly. yw ymddangosiad cyfrol Eirwyn Morgan. Gwnaeth y Prifathro gymwynas à phawb ohonom trwy ddewis bedydd yn bwne ei Ddarlith Pantyfedwen ym 1969. a syndod deall mai dyma'r ymdrin- iaeth lawn gyntaf o'r pwnc yn Gymraeg ers blynyddoedd lawer. Llwydd- odd yn ei fwriad i osod ger ein bron y dadlenon o blaid ac vn erbyn bedydd nlant yn deg ac yn frawdol."