ddylanwad llyfrau'r Apocryffa ar y Testament Newydd nag a roddir yma ar dud. 189. Gweler, e.e., y rhestr o ddyfyniadau o'r Apocryffa yn y Testament Newydd a geir ar ddiwedd The Greek New Testament (Gol. K. Aland et al., 1966), tt. 918-20. Byddai'n dda i ninnau heddiw efelychu ychydig ar batrwm bywyd y Cristnogion hyn yn eu defnydd helaeth o'r Ysgrythurau. Arwydd- ocaol iawn yw teitl llyfr a gyhoeddwyd ychydig yn ôl gan James D. Smart, The Strange Silence of the Bible in the Church (1970). Yng nghanrifoedd cynnar Cristnogaeth, ar y llaw arall, 'roedd y Beibl yn Ilyfr agored i bawb (t. 201). Un rheswm efallai pam y mae y Beibl yn llyfr caeèdig i lawer yng Nghymru heddiw yw ei fod yn anodd ac nid yw pobl am wneud yr ymdrech i gael eu goleuo ganddo: A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllen? ac efe a ddywedodd, Pa fodd y gallaf, oddieithr i rywun fy nghyfarwyddo i?" (Actau viii, 30-1). Dyna a geisiodd Dr. Bleddyn Jones Roberts a'i debyg ei wneud, a chymerir cam da ymlaen yn y cyfeiriad iawn yn y Gymraeg drwy gyhoeddi'r gyfrol hon. Llithrodd nifer o wallau argraffu i mewn i'r gyfrol, a dylid cywiro rhai camgymeriadau a llithriadau megis y rhain: Eseia 42: 6 sy'n cynnwys yr ymadrodd "yn oleuni y Cenhedloedd," nid Eseia 12 6 (t. 109); 2 Cor. 3: 17 yw'r adnod sy'n cyhoeddi mai yr Arglwydd yw'r Ysbryd," nid 2 Cor. 3: 7 fel y dywedir y tro cyntaf yr ymddengys ar dud. 173; ac ym Math. 12 3 (nid Rhuf. 12 3) y dywed yr Iesu Oni ddarllenasoch ?" Ar dud. 161 cyfeirir at Hanson heb unrhyw gyfeiriad yn y nodiad ar odre'r dudalen at ei waith. Mae'n debyg mai at gyfrol A. T. Hanson, The Wrath of the Lamb (1957), y dylid cyfeirio yma. Pam tybed yr arferir y ffurf Yahweh drwy gydol y gyfrol pryd yr argymhellir Iafe yn Termau Diwinyddiaeth (1968)? J. TUDNO WlLLIAMS. Y Coleg Diwinyddol, Aberystwyth. Gomer M. ROBERTS (Gol.), Hanes Metliodistiaeth Galfinaidd Cymru: Cyfrol I: Y Deffroad Mawr (Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, Caernarfon, 1973), tt. 476. Yn eu dydd bu Hanes Methodistiaeth Cymru a'r Tadau Methodistaidd yn gyfrolau digon gwasanaethgar i bawb a ymddiddorai yn hanes Cyfun- deb y Methodistiaid Calfinaidd. Mae'r defnydd a wneir ohonynt hyd heddiw yn deymged go sylweddol i'w cywirdeb sylfaenol. Eithr gyda threiglad y blynyddoedd daeth rhagor o'r ffynonellau i'r golwg, ehangwyd gorwelion dadansoddi hanes, a threuliwyd mwy o amser yn chwilota. Mewn can- lyniad, aeth Pwyllgor Hanes y Corff ati i adrodd yr hanes unwaith eto, gan benodi'r Parch. Gomer M. Roberts yn olygydd cyffredinol ar y gwaith. Bellach mae'r gyfrol gyntaf, Y Deffroad Mawr, wedi ymddangos, yn olynydd teilwng i'r hen gyfrolau clasurol. Bwriedir y llyfr ar gyfer darllenwyr cyffredinol yn ogystal â haneswyr crefydd. Y mae i'r gyfrol wyth o awduron, ac y mae'r cydbwysedd rhwng safbwynt poblogaidd yr ysgrifau a'r ysgolheictod gofalus yn glod i'w diwyd- rwydd. Estyn maes y gyfrol o darddiad mudiadau diwygiadol ddechrau r