ynddynt ddigon o adnoddau i alluogi'r rhai oedd yn byw yno ar y dechrau (originally)" gael digon o fwyd i'w cynnal (t. 79). Mae lIe yn ogystal i feirniadu niter o fanylion ymdriniaeth yr Athro Kohr, er enghraifft, ei haeriadau fod chwaeth yn rhywbeth rhad ac am ddim (t. 32); fod Deddf Cyfraneddau Amrywiol "yn arwain'" i ddiwyd- ianeiddio (t. 50); fod Adam Smith yn credu na buasai angen rheolaethau llywodraethol ar ôl i adeilad y genedl gael ei gwblhau (t. 93)—beth bynnag yw ystyr hynny. Eithr rhaid terfynu, a gwneud hynny gan deimlo y buasai'n braf cael ymuno ag un o ddosbarthiadau allanol yr Athro Kohr yng nghylch Aber- ystwyth i drafod ei waith-gwaith a argraffwyd yn lân a deniadol. Mae'r llyfr yn un diddorol a chofiadwy, sy'n rhoi gwybodaeth a goleuni hyd yn oed yn y mannau Ue bo dyn yn anghydweld. Fe'i hydreiddir gan hersonoliaeth hyfryd a gwarineb amlochrog awdur y cafodd llawer ohonom yng Nghymru fwynhau ei gwmni a'i gyfeillgarwch. Coleg y Brifysgol, Abertawe. R. O. ROBERTS. H. Tudur Jones, Ffydd yn y Ffau (Gwasg John Penry), 152 tt. 1.25. Cynnwys bedair ar bymtheg o erthyglau ar bynciau crefyddol a gyhoedd- wyd yn Barn o'i gychwyniad yn Nhachwedd 1962 hyd 1966, ac un ysgrif feithach o 48 tudalen a ysgrifennwyd ym 1972 dan y pennawd Byw yn v Dyddiau Diwethaf." Oni chofiwn ei ysgrif yn rhifyn cyntaf Barn ar Capel Tan Gwmwl yn achub cam Ymneilltuaeth pan ddywedodd bardd Cadair Llanelli ar y teledydd iddo yn ei awdl ganu mawl i'r offeiriad am fod dydd Ymneilltu- aeth ar y goriwaered a dydd yr offeiriad ar wawrio"? Disgynnodd Barn yn wir, ar ddydd yr offéiriad" a chymylwyd ei wawr y dwthwn hwnnw Ym 1945 ysgrifennodd Mr. Saunders Lewis yn Y Faner: Nid rhetoreg yw dweud bod heddiw argyfwng ar ein holl wareiddiad ni. Buasai dinistr v rhyfel ar ei ben ei hun yn ddigon i gynawnhau'r ymadrodd. Eithr y mae'n amheus ai dinistr materol y rhyfel, er bod hynny y tu hwnt i ddim a brofodd Ewrop ers canrifoedd, yw'r gwaethaf. Drylliad safonau ym mhob gwlad a phob cylch, safonau moes, safonau gwerth, safonau trefn, hyd yn oed y syniad am urddas dyn­nid ydwyf yn trafod y broblem grefyddol er mai hyhi wrth gwrs yw'r broblem sylfaenol-dyna'r pethau sy'n ein hwynebu ni heddiw." A thrafod y pethau "sylfaenol" a wna'r ysgrifau hyn gan y Dr. R. Tudur Jones a 'sgrifennwyd, ac eithrio un, tua deng mlynedd yn ôl mewn sefyllfa a oedd yn ddychryn o debyg i'r un y cyfeiriai Mr. Saunders Lewis ati gryn ddeng mlynedd ynghynt. Ystrydeb bellach ydyw'r sôn am y newid mawr a chyfl}m a ddaeth dros fywyd y genedl, ond gwired ydyw. Bu amser yng Nghymru pan oedd bri ar grefydda," meddai'r awdur. Cofiaf wrando ar weinidog oedrannus yn cyfeirio at y cyfnod pan gychwynnodd ef i'r Weinidogaeth. Nid mawrhau'r gorffennol yn feddal yr oedd o gwbl. ond cymharu'r cyfnod hwnnw gyda'r