Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn y stori hon, daw ei ferch yn ôl at Dafydd a sefydlu perthynas glòs iawn ag ef er bod eu hamgylchiadau byw yn ddigon anodd­ond gan mai stori antur yw hon, gwell imi ymatal rhag dweud rhagor, rhag ofn imi ddatgelu unrhyw gyfrinach a allai ddifetha'r gwaith i ddarllenydd. Digon yw nodi mai Agar yw enw y ferch Hane-a chawn gwrdd â hi ar ddau gyfnod yn ei hanes; i ddechrau pan oedd yn blentyn ofnus deg oed, ac wedyn wedi iddi hi dyfu i fyny yn eneth hardd a gosgeiddig. R. Bryn Williams yw'r awdur mwyaf ffodus yng Nghymm-ef biau'r wythïen gyfoethocaf o hanes i\v chloddio o bell ffordd. Pe bai wedi dewis gwneud hynny, gallai fod wedi llunio epig o nofel am anturiaethau'r ym- fudwyr cynnar i Batagonia­eithr yn hytrach, dewisodd lunio nifer o fân nofelau hynod o ddiddan ac fe ddywedir ar y siaced lwch ei fod, gyda'r gwaith hwn, yn dod i ben a dasg fel lladmerydd Y Wladfa." Wrth fwrw trwy nofelau tebyg gan nofelwyr eraill, yr hyn a wnawn yw chwilio am stori dda, ond mae cefndir nofelau R. Bryn Williams yn amlach yn fwy diddorol na'r stori ei hun, achos mae'r holl fanylion am fywydau pob dydd y cymeriadau yn rhoi darluniau byw inni o arferion yr arloeswyr cynnar-fel yr oeddynt yn ymgodymu â'u trafferthion ac yn araf fabwysiadu dulliau dieithr o fyw. Ac fe geir cyfoeth o ramant mewn sawl paragraff na fyddai'n denu sylw ato'i hun mewn nofel ac iddi gefndir Cymreig. Fel y disgrifiad hwn o angladd un o'r cymeriadau, er enghraifft: Darniodd y bwrdd a'r cwpwrdd, ac â'r ystyllennod lluniodd arch, a rhoi corff bregus Dafydd ynddi. Aeth allan a chloddio bedd ar fryncyn gerllaw. Cariodd y ddau yr arch a'i gollwng i'r bedd. Cystal i mi gyfaddef fod gan baragraffau fel hwn ddiddordeb arbennig i mi. Ar dudalen 49, darllenais am yr ysgol newydd a sefydlwyd yn Y Wladfa a dywedir: Mae Dafydd Rhys wedi dod yn ôl o'r Hen Wlad i fod yn athro ynddi." 'Nawr, gan fod yr awdur yn dweud iddo enwi ambell un a fu'n arweinydd yn Y Wladfa credaf y gallaf ddweud i'r Dafydd Rhys yma fod yn brifathro ysgol arnaf i yn Ysbyty Ystwyth, sir Aberteifi. Cofiaf imi weld llun ohono gyda disgyblion yr ysgol newydd hon pan drefnwyd arddangosfa o'r Wladfa a'i phethau yn Y Llyfrgell Genedlaethol rai blynyddoedd yn ôl. A'r hyn a wnâi Dafydd Rhys (Jones Pat i bobol yr ardal) yn yr ysgol oedd ein trwytho ni'r plant yn hanes cynnar Y Wladfa, ac 'roedd yn falch iawn o'i gysylltiad â hi. Gallaf ddweud, oherwydd hyn, fod llâwer o'r cefndir yn gyfarwydd i mi cyn i mi ddarllen y gwaith, ond mae'r awdur wedi helpu ei ddarllenwyr i ddeall rhai termau anodd drwy eu gosod mewn print bras a'u hegluro mewn dau dudalen o eirfa yng nghefn y llyfr. 'Roedd hyn yn syniad da, ond fe fyddwn i'n hapusach pe bai wedi dewis egluro'r geiriau mewn troednodiadau a gwneud hynny un- waith yn unig. Gan mai nofel i rai mewn oed yw hon, ni chredaf fod eisiau tynnu sylw at air dieithr fwy nag unwaith, yn enwedig gan fod yr awdur yn rhoi syniad da o'i ystyr sut bynnag yn y modd y mae'n ei ddefnyddio mewn brawddeg. Yn nhraddodiad barddoniaeth gynnar Gymraeg, 'dyw'r awdur ddim wedi ceisio vmestyn ei ddisgrifiadau o sefv11faoedd. Fe fyddwn j'n bersonol yn