Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mewn arddull eghu a thrwsiadus un a gymerodd dralleith ai hyd y blyn- yddoedd i ysgrifennu yn goeth. Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. O. R. JONES. O.N. — Hwyrach yr hoffai'r darllcnwyr wybod y bydd daiiithiau a thrafod- aethau ar lyfr yr Athro Lewis yng Nghynhadledd Flynyddol Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion ym mis Medi eleni, ac y bydd yr awdur yno i egluro ac amddiöyn ei saíbwynt. Gellir cael y manylion gan yr adolygydd. Huw Llew WILLIAMS, Yr Emyn yn y Gwasanaeth Crefyddol (Llytrfa'r M.C., Caernarfon, 1973). 30c. Bu eniw'r Parchedig Huw Llew Wiliiams yn adnabyddus ddigon yng Nghymru fel bardd ers rhai blynyddoedd, a bellach wele lyfryn yn dwyn ei enw sy'n mynegi rhai o'i syniadau fel cerddor yn ogystal ag fel gwr llên. Cymeriadau digon prin yn ein gwlad erbyn heddiw yw'r dynion hynny sy'n llwyddo i gyfuno diddordebau'r bardd a'r cerddor, ac at ei gilydd pobl nad oes ganddynt nemor ddim i'w ddweud wrth emyn-dôn a chefndir canu cynulleidfaol y genedl yw'r rhai hynny sy'n ymddiddori mewn emyn- yddiaeth! Mae'n destun llawenydd felly, fod gennym ambell eithriad prin fel y Parchedig Huw Llew Williams, sydd nid yn unig yr un mor gyfarwydd â chymwynasau emynwyr a cherddorion y genedl, ond sydd hefyd lawn mor gymwys i bwyso a mesur cynhyrchion y naill fel y llall yn ôl safonau cyfoes. Y Ddarlith Davies, a draddodwyd yng Nghymanfa Gyffredinol y Meth- odistiaid Calfmaidd yn Rhuthun ym mis Mehefin 1972 yw cynnwys Yr Emyn yn y Gwasanaeth Crefyddol. Fe wyr y oyfarwydd mai'r arfer yw traddodi crynodeb yn unig o'r ddarlith ar y pryd, ac yna gyhoeddi cyfrol sylweddol o ran ei niaint rywbryd yn ddiweddarach. Yn groes i'r arferiad hwnnw, dewisodd Mr. Williams gyhoeddi'r hyn a draddodwyd yn Rhuthun, gan ychwanegu chwe thudalen o Nodiadau' a rhestr o "Rhai Erthyglau a Llyfrau ar y testun yr ymgynghorwyd â hwy. Byddai'n hawdd beio'r awdur am beidio â mynd ati i baratoi clamp o gyfrol ar destun mor ddiddorol, ond os camodd yn fras, teg yw dweud ei fod wedi catmu'n ofalus, ac wedi gollwng arobell ysgyfamog y byddai o fudd a mantais i'r sawl sy'n ymddiddori yng nghaniadaeth y cysegr ei hymlid. Ar ôl olrhain yn gynnil a chryno yr arfer o ganu emynau yn yr eglwysi Protestannaidd,-ac yng Nghymru yn fwyaf arbennig,—cyfeiria'r awdur at nifer o arferion a datblygiadau gyda chanu mawl, gan egluro sut yr enillodd yr emyn ei le yn yr addoliad cyhoeddus. Y mae'r cyfeiriadau at lu o arloeswyr canu cynuHeidfaol y genedl, — John Ellis, Llanrwst; Dafydd Siencyn Morgan, Llechryd; J. D. Jones, Rhuthun; Tanymarian, a'u tebyg,-yn sicr o ysbrydoli'r sawl sydd â diddordeb ganddo yn y testun i chwilio am ragor o hanes y rhai a wnaeth y gwaith o geisio gwella cam-drefn ac aHerwch y canu oynulleidfaol fel prif nod eu bywyd. i