Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODYN LLYFRYDDOL Efallai y bydd y nodiadau a ganlyn am y ffynonellau lIe y ceir gwybodaeth am fywyd a gweithiau T. Gwynn Jones, yn fuddiol i ddarllenwyr. 1. Owen Williams, A Bibliography of Thomas Gwynn Jones, reprinted from the Bibliography of Denbighsìúre, Part 3. Wrexham, 1938. Dyma'r brif lyfryddiaeth: y mae ynddi 496 o eitemau, wedi'u cyhoeddi rhwng 1891 a 1937. Cynhwysir llyfrau, cerddi, straeon, ac erthyglau mewn cyfnodolion; cyfieithiadau; a beirniadaethau. Trefnir yn ôl dyddiadau cyhoeddi ac y mae ar y diwedd fynegai dan deitlau y gweithiau. 2. David Thomas, Atodiad i Bibliography of Tlwmas Gwynn Jones." Conwy, 1956. Cynhwysir cywiriadau a nodiadau—­30 ohonynt; Chwanegiadau hyd 1937­173 o eitemau; a rhestr o 128 o gyfieithiadau, wedi'u trefnu yn ôl y rhifedi yng ngwaith Owen Williams a'r Atodiad ei hun, ac yn ôl yr ieithoedd. 3. Y Llenor, Cyf. 28, Rhif 2, Haf 1949: Rhifyn Coffa Thomas Gwynn Jones. Y mae yn hwn fanylion ynglyn â bywyd a gwaith T.G.J., wedi'u casglu gan Arthur ap Gwynn. 4. Taliesin, Cyf. 19, Nadohg 1969, Thomas Gwynn Jones." Erthygl gan A. ap Gwynn yn cynnwys cywiriadau ac ychwan- egiadau at yr erthygl yn Rhifyn Coffa Y Llenor. 5. Y mae Mr. F. Wynn Jones, Aberystwyth, yn paratoi llyfr- yddiaeth fydd yn cyfuno 1 a 2 uchod ac yn ychwanegu nifer sylweddol iawn o weithiau na ddarganfuwyd mohonynt gan Owen Williams a David Thomas ac yn cywiro nifer o'u camgymeriadau.