Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T. GWYNN JONES A CHELFYDDYD MAE yn fy meddiant un llmi o waith fy nhad-fawr rhagor na thair modfedd o led a phrin ddwy o uchder. Llun o gastell Caernarfon oddi ar lan afon Saint ydyw, wedi'i baentio â lliwiau dwr. Ni wn i pryd y gwnaed ef ond tybiaf mai gwaith y gellir ei alw yn waith dyn dibrofiad ydyw. 'Does ynddo fawr feistrol- aeth ar y lliwian­gwyrdd a chochlyd-ac y mae effaith cynefin- dra'r artist â'r olygfa i'w dirnad oddi wrth ddiffyg bywiogrwydd y llun. Gellir hefyd, y mae'n debyg iawn, amau a oedd yr offer cystal ag y dylent fod-y paent dyfrliw yn wael, efallai, y papur yn llipa, a'r brws yn garpiog. Dyma'r unig esiampl o waith darluniadol gan fy nhad mewn lliw y gwn i amdano. Tybiaf er hynny nad pwrpas llenyddol yn unig oedd ganddo wrth wneud y nifer teg o gopïau yn null ysgrifwyr llawysgrifau yr Oesoedd Canol, sydd ar wasgar yma ac acw; gallaf yn hawdd weld yr un ymhyfrydu mewn lliw a llun yn y copïo, ac y mae yn y copiau feistrolaeth hefyd. Fy anffawd i yw nad oes gen i yr un ohonynt. Cyrhaeddodd rhai ohonynt y Llyfrgell Genedlaethol ers blynyddoedd a bob yn dipyn y mae eraill yn ymlwybro yno trwy garedigrwydd y perchenogion.1 Ymysg y copïau sydd yn Ll.G.C., y ddau gopi cyflawn o Lyfr Du Caerfyrddin, wedi'u gwneud yn fanwl oddi wrth argraffiad facsimile Gwenogvryn Evans, ydyw'r mwyaf nodedig, pe na bai ond am y dyfalbarhad y maent yn dystion iddo. Mewn gwir- ionedd y maent yn gampweithiau o galigraffiaeth wych. Am y gwaith mewn du a gwyn, y mae'r clawr a gynlluniodd fy nhad ar gyfer "Gwlad y Gân" (cyhoeddwyd ym 1902) yr enghraifft orau y gellid ei chael; mewn gwirionedd 'does fawr ddim o bwys ar gael o'i waith mewn du a gwyn heblaw hwn. Y mae gwendidau ynddo, wrth gwrs, fel y gellir disgwyl gan un heb fawr ddim addysg2 yn y grefft na phrentisiaeth drwyadl: yr awyr a'r bryniau yn y cefndir yn undonog, y cynllunio efelychiadol, y dibynnu ar ddynwared techneg ysgythru platiau ar ddur ar gyfer llyfrau printiedig. Er hynny y mae ynddo ragoriaethau: perspectif da, y gosodiad yn nhro yr afon ac yn y llinell fras at ymyl y creigiau a'r brwyn yn gryf a chymesur, lleoliad y du a'r gwyn at dorri neu fylchu'r coed yn fanwl. Am y teitl, y mae'r llythrell-