Skip to main content

MATH FAB MATHONWY Y MAE'R bedwaredd Gainc o'r Mabinogi yn agor yr un modd â'r gyntaf a'r ail, sef megis darn o hen gronigl neu frut neu bennod newydd yn Llyfr y Brenhinoedd yn yr Hen Destament: Math uab Mathonwy oed arglwyd ar Wyned, a Pryderi uab Pwyll oed arglwyd ar un cantref ar ugeint yn y Deheu. Sef oed y rei hynny, seith cantref Dyuet, a seith Morgannhwc, a phedwar Kyredigyawn, a thri Ystrat Tywi. Megis hanesydd hefyd y mae'r awdur yn mynd rhagddo, 'Ac yn yr oes honno Y mae'n rhagdybio, yn gwybod, fod ei gynull- eidfa'n gynefin â straeon am arwyr eu hen chwedloniaeth ac yn gynefin â ffiniau gwledydd Cymru. Mae'r agoriad hwn gan hynny'n deffro diddordeb. Dywedir fod Pryderi yn arglwydd ar Ddyfed a Seisyllwg a Morgannwg! Ymhellach ymlaen fe roir yr enw Deheubarth ar y deyrnas hon. Ond atolwg, ym mha gyfnod erioed y bu Deheubarth yn Wlad ar ei phen ei hun ac yn cynnwys Mor- gannwg? Nid oes sôn am ddim tebyg o gwbl cyn 1172. Mis Mai, 1172, fe benododd Harri'r ail ei gyfaill, Rhys ap Gruffydd, arglwydd Deheubarth, yn 'Ustus yn holl Deheubarth' neu'n 'Ustus ar Ddeheu- barth Cymru,' ac fe gyhoeddodd fod hynny'n cynnwys Morgannwg gyfan a Gwent. O hynny ymlaen ei enw yn y Brut yw'r Arglwydd Rhys. Fe ymddengys gan hynny'n rhesymol dal mai ar ôl Mai 1172 y gallai awdur ddarllen stori i gynulleidfa Gymraeg a chyhoeddi fod Morgannwg yn yr oes honno' yn rhan o Ddeheu- barth ac o deyrnas Pryderi. Fe glywai deiliaid yr Arglwydd Rhys -dyweder, yn Eisteddfod Aberteifi, Nadolig 1176-fod hynny'n agoriad priodol iawn i gyfarwyddyd. Does dim sôn am Bowys yn y frawddeg agoriadol. Ond ymhen ychydig y mae Cwydion yn addo 'dygyuori Gwyned a Phowys a Deheubarth,' megis petai Powys yn israddol i deyrnas Gwynedd. Mae'n hynod hefyd fod Gwydion, wedi iddo ennill y moch yng Ngheredigion, a chan ofni i Bryderi ei ddilyn a'i ddal, yn troi'n sydyn i Bowys am ddiogelwch ar ei daith adref. Amlwg fod Powys yn wlad gyfeillgar iddo neu?n wlad nad rhaid iddo'i hofni. Mae'r stori'n rhoi darlun o ddarostyngiad Powys a'i rhannu'n fân wledydd ar ôl buddugoliaethau Owain Gwynedd a Dafydd ab Owain, ac Owain Cyfeiliog yn gweld yn Harri'r Ail ei unig darian,