Skip to main content

MANAWYDAN FAB LLYR DYMA linell gyntaf y Drydedd Gainc o'r Mabinogi yn y Llyfr Gwyn: Gwedy daruot yr seithwyr a dywedyssam ni uchot Ceir y cymal olaf yna unwaith yn Branwen am y 'gwr anagneuedus a dywedassam uchot' a cheir yn Brut y Tywysogion (RB 276) 'wynteu a dywedassam ni vry.' Er mwyn deall uchot rhaid ei droi'n ôl i'w Ladin gwreiddiol, a dyna frawddeg Cesar uti supra demonstravimus a chofio mai ar sgroliau y sgrifennai'r Rhufein- iaid, a dyfod supra neu uchot felly i olygu gynnau. Gan hynny nid cyfarwydd, ond llenor eglwysig sy'n cofio'i Ladin ac yn sgrifennu ar femrwn mewn llyfr, piau'r geiriau. Y mae'n cofîo'i Efengyl hefyd, oblegid fe bair i Fanawydan ocheneidio, 'Nyt oes neb heb le idaw heno namyn mi' sy'n atsain go eglur o 'Gan fab y dyn nid oes lIe y rhoddo ei ben i lawr. Nid rhyfedd felly fod hierarchiaeth yr eglwys mor ddiogel ganddo wrth iddo drefnu fod ysgolhaig 'yn dyfod o Loegr o ganu/ ac wedyn offeiriad ac wedyn rwter esgob yn dilyn ei gilydd yn argyfwng y stori. Ceir cyfeiriadau yn y chwedl at y ddwy gainc flaenorol. I awdur Manawydan nid ydynt yn hanfodol ac ni chais ef gysondeb. Yr oedd Brân yn Branwen yn gawr goruwchnaturiol na fu erioed dy a allai ei gynnwys. ond dywed Manawydan yn awr amdano: 'goathrist yw genhyf j gwelet neb yn lIe Bendigeiduran uy mrawt, ac ny allaf uot yn llawen yn un ty ac ef.' Sydyn a llwyr hefyd y daeth newid ar Ynys y Cedyrn. DiHannodd. Gwlad ar wahân yw Lloegr bellach. Yn Pwyll y mae Dyfed ac Annwn yn wledydd cymdogol. Yn Branwen cerdded a wna Brân i Iwerddon ac y mae afon Llinon yn rhyfedd ei naws a'i lIe. Ond ym Manawydan mae'r ddaearyddiaeth yn sad, a Llundain. Kent, Rhydychen, Henffordd, Dyfed, oll yn eu lleoedd fel yn awr. Yr ydym yn yr un wlad ag y cerddodd Gerallt Gymro drwyddi yn 1188 yr un mor heddychlon a thawel. Dywedodd Gerallt am Ddyfed (yng nghyReithiad yr Athro Thomas Jones):