ADOLYGIADAU Alan Booth, Not Only Peace (S.C.M.), 21/ NI fu gwasg Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr erioed yn brin o fynegi barn drwy ei hawduron ar berthynas Cristnogaeth a'r byd seciwlar, fel y dengys teitlau diweddar megis The Christian Response to the Asian Revolution (M. M. Thomas), Communist Faith and Christian Faith (Donald Evans), a llyfrau a gafodd eisoes gryn sylw megis The Secular City (Harvey Cox) a Situation Ethics (Joseph Fletcher). Cadwodd yn bur agos hefyd at ddatganiadau Cyngor Eglwysi'r Byd ar broblemau cyfoes fel rhyfel, rhyw, a moesoldeb yn gyffredinol, ac y mae Alan Booth mewn sefyllfa fwy manteisiol na'r rhelyw gan mai ef ydyw ysgrifennydd Comisiwn yr Eglwysi ar faterion cyd-wladol. Ni olyga hyn, fodd bynnag, ei fod ef yn ystyried mai ei waith ef ydyw cyfiawnhau unrhyw safbwynt arbennig o eiddo'r Comisiwn, fel y dengys ei lyfr arall, sef Christians and Power Politics. Yn hytrach geilw ar Gristnogion i ystyried o newydd ystyr ac arwyddocâd grym yn y byd sydd ohoni. Yn wir dyna is- bennawd y llyfr hwn, Christian Realism and the Conflicts of the 20th Century. Ni fynn wneud gosodiadau oraclaidd ar y sefyllfa gymhleth y mae'r eglwys a'r byd ynddi ar hyn o bryd, a galw i drafod yn hytrach nag i ddyfarnu a wna, ond ar yr un pryd y mae am i'w ddarllenwyr ddeall ar y naill law mai fel Cristion argyhoeddedig yr ysgrifenna, ac ar y llaw arall ei fod yn ym- wybodol mai geirfa sy'n gyfyngedig i leiafrif bychan bellach ydyw termau fel Duw, Ymgnawdoliad, Iawn, etc. Rhaid wrth iaith grefyddol newydd i oes newydd, ac nid digon bellach ydyw mynegi ein bod yn erbyn y peth a'r peth 'o ran egwyddor.' Dylid cofio hefyd nad y Cristion yn unig sydd mwyach yn ymboeni ynghylch tynged y byd; y mae'r bobl a elwid gynt gennym yn 'anffyddwyr' (ac yn eu plith rhestrir bellach esgobion fel John Robinson, diwinyddion fel van Buren, heb sôn am bleidwyr yr 'heresi' olaf un, sef, fod Duw ei hun wedi marw) yr un mor bryderus â'r credinwyr-rhai ohonynt yn fwy felly. Y cwestiwn cyntaf y cais ei drafod ydyw: Pam y ceir rhyfeloedd o gwbl? yn arbennig yn wyneb y ffaith fod unrhyw ryfel ar raddfa fawr yn gwbl afresymol, heb sôn am fod yn anfoesol, mewn oes niwcliar. Ni fyddai'r heddychwr diamodol, wrth gwrs, yn derbyn y ddadl fod llai fyth i'w ddweud o blaid rhyfel heddiw am fod mwy yn debyg o gael eu lladd; iddo ef y mae rhyfel ynddo'i hun yn ddrwg diledryw, ac nid oes a'i cyfiawnha o dan unrhyw amgylchiad. Bid a fo am hynny, yn gyffredinol gellir priodoli militariaeth a rhyfel i dri achos: (a) Yr hyn a fynegir yn siarter UNESCO, mai ym meddwl dyn y tardd rhyfeloedd, ac ym myd y meddwl trwy fwy o addysg a gwybod- aeth y gorwedd y waredigaeth. Ar wahân i gytuno â'r awdur mai tasg a gymer amser maith ydyw hon, gosodiad academaidd, hanner gwir ydyw hwn. Nid yw'r dyn dysgedig o angenrheidrwydd yn rhydd o ragfarn; y mae'n amheus gennyf a oes mwy o heddychwyr ymysg haneswyr nag unrhyw ddosbarth arall, er eu bod hwy lawer yn fwy hyddysg, yn rhinwedd eu swydd,