bwysicaf ohonynt i gyd. Gall gymryd ei ddenu, gall ddeisyf, gall hiraethu, a gall hefyd wneud pethau sy'n bell, a dweud y lleiaf, oddi wrth yr hyn a ystyriwn ni yn 'faterion yr enaid'! Canlyniad y datblygiad yn y defnydd a wneir o'r gair yw fod yr elfen hon yn gyfystyr, weithiau, â'r person ei hun, ac am hynny gall fod yr un fath â rhagenw personol neu ragenw atblygol. Hwn, wrth gwrs, yw'r gair a ddadansoddir fanylaf yn y llyfr, ond ceir triniaeth gyffelyb ar bynciau a geiriau eraill. Ar y naill law ceir trafod RUAH (ysbryd); ar y llaw arall, geiriau am rannau o'r corff fel cnawd, pen, wyneb, llygad, ffroenau, llaw; yna gwaed, calon (sy'n gyfystyr â 'meddwl' a 'deall') ac amryw eraill. Mewn canlyniad, dengys yr awdur ei bod yn rhaid cywiro llawer o'r diffiniadau hen-ffasiwn. Yn arbennig gwelir mor anghywir yw sôn am ddeu- oliaeth corff ac enaid mewn dyn. Yn hytrach, ceir cyfanwaith o ddyn yn un corff, a'r nerth bywydol sydd ynddo yn ymestyn allan i gynnwys elfennau fel 'gair', 'meddiant', 'tŷ' a 'theulu'. Yn yr angau fe ddinistrir y gallu bywiol, ond nid yw'r dinistr yn ddifodiant, oherwydd nid yw marwolaeth ond y ffurf eiddilaf ar fywyd, ac am hyn y mae'r marw yn 'bod', fel cysgod, ym mro angau. Ond cyn terfynu'r adolygiad moel hwn, hoffwn sylwi ar ddau beth yn gyffredinol. I ddechrau, y mae gwaith o'r math hwn yn hanfodol bwysig i ni yng Nghymru heddiw o safbwynt diwygio'r trosiad Cymraeg o'r Beibl. Fe ŵyr y rhai sydd wrthi'n cyfieithu am y gwaith hwn a llawer o rai tebyg, a gwneir pob ymdrech i gorffori'r goleuni newydd sydd ynddynt yng nghyfieithiad y Beibl newydd. Ond gobeithir y bydd eraill, yn arbennig ein gweinidogion, yn weddol hyddysg yn y trafodaethau, oherwydd bydd yn rhaid iddynt hwythau hefyd geisio egluro i'w praidd paham y bydd y trosiad newydd, er enghraifft, yn osgoi'r gair 'enaid' mewn llawer He yn yr Hen Destament. Ac y mae a wnelo'r ail sylw hefyd â Chymru gyfoes. Dyma'r ail lyfi ysgolheigaidd a ddaeth i mi yn ddiweddar i'w adolygu i'r TRAETHODYDD, ac yn rhifyn Ionawr '65 dywecfais-bron ar ddamwain-mor falch oeddwn o gael trafod gwaith o'r fath yn wyneb y syrffed a gefais o ddarllen trafodion diwin- yddol yn y Wasg Gymraeg yn ddiweddar. Codwyd y sylw hwn gan rai o'r papurau newydd, a theimlaf y dylwn wneud fy mhwynt yn fwy clir. Gallaf ei wneud yma oherwydd i mi deimlo ynglŷn â llyfr Johnson yr hyn a deimlais hefyd ar ôl darllen llyfr W. D. Davies. Yr hyn y cefais syrffed arno yw'r dadlau di-ddiwedd yn Y Cymro gan Gwilym O. Roberts, yn Barn gan H. D. Lewis a J. R. Jones, yn Y TRAETHODYDD gan Dewi Phillips, ac ar y radio a'r teledu. Ond, gwaeth na hyn, caf achos pryder wrth sylweddoli fod y werin yn tybied mai'r gwyr hyn yw'r rhai sy'n dehongli diwinyddiaeth ac yn trafod pynciau hanfodol crefydd ac achub eneidiau. Y ffaith syml yw mai athron- iaeth crefydd, yn hytrach na'i diwinyddiaeth, yw priod faes pob un o'r rhai a enwyd, a gwelaf i'n glir iawn mai siarad ar eu cyfer a wnânt wrth honni mai fel hyn neu fel arall y mae'n rhaid deall y Beibl. Wrth ddefnyddio iaith a chefndir diwinyddol rhoddant argraff mai athroniaeth crefydd biau'r hawl i ateb dadleuon tyngedfennol ynglŷn â chredo. Ar y llaw arall, pe gellid perswadio pobl i ddarllen a deall llyfrau fel hwn gan Johnson a'r llall ar