'R oedd gwreiddiau geiriau iddo Yn faes a'i denai efô. Bu'n eiriadur, eglur ocdd, I'n lliaws enwau lleoedd: Dewin i drin gair a'i dras, Manwl ymhob cymwynas. Pwy ddaw i ben wrth enwi Ei roddion weithion i ni? Rhoddion i'w frodyr hyddysg, Neu i dorf yn mwynhau dysg. Ar ei ôl mor werthfawr ŷnt! Hadau toreithiog ydynt. Saer yr iaith, consuriwr oedd, A llawen athro lluoedd. Gwersi gŵr, mewn gwresog aidd, Is ei glog ysgolheigaidd, Yr un modd, gyda'r un min, Ag araith ar lên gwerin; A thrin, gan ystwytho'r iaith, Yn addas i'w beunyddwaith. Nid oedd un nas diddanai; Dawn syber. fel mwynder Mai Llon air, nid archollai neb, A ffrwyth liwnnw'n ffraethineb. Sgwrs a dysg yn gymysg yw Rhoddion Syr Ifor heddiw. Hafod lon fu'r Hafod Lwyd, Helaeth oedd croeso'i aelwyd; Hithaui Fyfanwy weithian I'w lys yn unbennes lan; Hyfryted pan ddôi wedyn Ar eu tro Gwenno a Gwyn! Dyna'i fyd a'i wynfyd o, A'r heniaith mewn bri yno. Gŵr a'i afiaith a'i grefydd Yn fyw o'r un gynneddf rydd, Ac wrth fwynhau dyddiau dyn Addolai Dduw a'i ddilyn.