Ni chafwyd gwrthryfel arfog yng Nghymru: yr oeddym eisoes wedi cael terfysgoedd y Siartr a Rebeca, ond ni wnaethant hwy fawr o gyfraniad i'n cynnydd gwleidyddol. Gwerin floesg, inarticu- late, yn gwingo yn erbyn y symbylau ydoedd y terfysgwyr hyn, a gwelai arweinyddion gwerinol y werin Gymraeg na thyciai dulliau terfysglyd i wella dim ar ei chyflwr. Ond parodd y sarhad a rodd- wyd arnynt yn y Llyfrau Gleision i werinwyr Cymru ymegnïo i wella'u cyflwr addysgol a chymdeithasol, ac ymroi i ennill gallu gwleidyddol. Y cyhuddiadau ysgubol a gyhoeddwyd bryd hynny am anfoesoldeb y genedl, a'r ymosodiadau a wnaed gan yr Adrodd- iad ar yr iaith Gymraeg, a feginodd farwor digon llugoer yr ym- deimlad cenedlaethol nes tyfu ohono'n wladgarwch gwresog mudiad Cymru Fydd. Fel y sylwodd Syr Thomas Phillips: Amongst the mischievous results which the temper and spirit of the Reports have provoked in Wales, I regard with discomfort and anxiety a spirit of isolation from England 2 Mewn cyfnod llai cythryblus ni byddai hyn o bwys mawr efallai, ond yr oedd yn beryglus iawn mewn cyfnod y dywedodd Phillips amdano ei fod yn: period in the world's history when the process of decomposition is active among nations, and pnrases which appeal to the sym- pathies of race become readily mischievous. Prin y gellir dal mai'r tri chomisiynydd ydoedd y 'Bradwyr' yn yr achos hwn: Saeson oeddynt hwy, ac ni allent hwy felly 'fradychu' Cymru. Nid oedd eu cynorthwywyr ychwaith, er mai Cymry o ryw fath oeddynt, yn ddigon pwysig na dylanwadol i ennill amlyg- rwydd y teitl 'Bradwyr'3: y gwaethaf y gallai Lewis Edwards ei argymell i'r 'corachod' hyn a ryfygai 'feirniadu ar ddynion mil gwell na hwy eu hunain', ydoedd eu cicio.4 Y gwir fradwyr ydoedd y Cymry breiniol hynny, yn glerigwyr ac yn fyddigion, a roes dyst- iolaeth unochrog ac anghyflawn gerbron yr ymchwilwyr; pwysig dros ben ydyw sylwi i bob un o'r atebion a gyhoeddwyd i'r Llyfrau Gleision roi amlygrwydd i'r ffaith mai ail-adrodd yr hyn a dystiwyd ger eu bron gan dystion yng Nghymru a wnai'r ymchwilwyr wrth ddwyn y cyhuddiadau mwyaf difrifol yn erbyn cymeriad moesol y Cymry, a hefyd y sylwadau mwyaf diraddiol ar yr iaith Gymraeg. Dyma'r bradwyr y gwrth-ymosododd Lewis Edwards arnynt mor