Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD EFFAITH BRAD Y LLYFRAU GLEISION Pan fo fferyllydd yn dymuno prysuro rhyw ddatblygiad cemegol wrth arbrofi, gall ychwanegu ambell elfen sy'n gweithredu fel cyflymydd neu catalyst. Dyna, mi gredaf, ydoedd effaith cyhoeddi'r Adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru yn haf 1847,1 yr Adrodd- iad y daethpwyd yn fuan wedi ei gyhoeddi i'w alw'n Frad y Llyfrau r G Gleision. Dyma'r catalyst a gyflymodd ddatblygiad y werin dlawd, araf, geidwadol a di-ddysg a fodolai yng Nghymru yn nechrau'r 19eg ganrif ac a ddatblygodd yn werin fywiog, radicalaidd a diwyll- iedig erbyn ei diwedd. Dyma'r un digwyddiad mawr a ysgydwodd genedl gyfan i'w gwaelod, ac arwain i'r bywiogrwydd radicalaidd- wleidyddol anhygoel a gafwyd yn ystod ugain mlynedd olaf y ganrif, gan fegino tanau cenedlaetholdeb cynyddol. Arweiniodd hefyd i weithgarwch prysurach ym myd addysg, fel y gallesid disgwyl gan mai ymchwiliad i gyflwr addysg Cymru a roes fod iddo: a heb y gwelliannau addysgol hyn, ni buasai'r cynnydd ym meysydd gwleidyddiaeth a llenyddiaeth yn bosibl. Yn wahanol i gatalyst y cemegydd, fodd bynnag (nad yw'n gadael dim o'i ôl yn yr arbraw), gadawodd Brad y Llyfrau Gleision waddod ar ei ôl­gwaddod o chwerwedd ac o elyniaeth rhwng gwerin a 'byddigion'. Efallai nad yw yn natur pethau i gyfeill- garwch brwd iawn ffynnu rhwng y dosbarthiadau hyn, ond yn sicr y chwerwedd a'r elyniaeth a adawyd yn waddod ar ôl y Llyfrau Gleision a roes yr elfen anfaddeugar yn radicaliaeth gwerin Cymru. Ar hyd a lled Ewrop, yr oedd y cyfnod hwn yn un cythryblus: yn 1848 cafwyd gwrthryfeloedd yn Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal ac Awstria-Hwngari, gyda'r mudiadau cenedlaethol a gwerinol yn dyrchafu eu pennau yn erbyn yr hen gyfundrefnau; a'r hyn a roddai hunllefau i'r 'bobl fawr' a'r metternichiaid ymhob gwlad ydoedd y byddai'r bobl gyffredin yn dyfod i awdurdod trostynt. Ni ddigwydd- odd hyn ar unwaith wrth gwrs-rhaid oedd aros am Gytundeb Versailles ar ddiwedd rhyfel-byd 1914-18 cyn cyflawni rhai o ddyheadau cenedlaethol 1848-ond rhoes cynyrfiadau'r flwyddyn honno ysbryd a brwdfrydedd yng ngwerinoedd Ewrop i frwydro ymlaen. Cyfrol CXVIII. Rhif 507. Ebrill, 1963 E