gael darllen yn Gymraeg am y gwaith nodedig a wneir yn y gornel fechan hon o Gymru. Mae erthygl Dr. Hugh Rees yn enghraifft dda o sut mae'r gwyddonydd yn mynd ati i ddatrys problem, ac er gwaethaf y termau technegol, fe all y darllenwr ddilyn cwrs y ddadl, sydd yn darllen fel stori dditectif, heb un anhawster. Diddorol hefyd yw "Creigiau Cymru" gan y Dr. Douglas A. Bassett, a benodwyd yn Geidwad Adran Daeareg Amgueddfa Cymru yn 1959. Dyma arbenigwr arall yn dehongli hanes Cymru o'r wybodaeth a geir yng nghreigiau ein gwlad. Eto yn gwbl ddealladwy i'r sawl na wyr y nesaf peth i ddim am ddaeareg. Os cymerir oed y byd fel blwyddyn, ymddangosodd dyn am chwarter i ddeuddeg ar Rhagfyr 31 Esiampl dda o wyddoniaeth gymwysedig yw'r atomfa yn Nhrawsfynydd sydd i gychwyn ar ei gwaith y flwyddyn yma, a'r pwerdy yn Nhanygrisiau sydd eisoes yn cynhyrchu trydan. Er fod cynllun y ddau yn hollol wahanol, mae yna gysylltiad agos rhyngddynt, ac i raddau mae un yn dibynnu ar y llall. Eglurir hyn i ni gan y Dr. Eirwen Gwynn. Mae pwer yr atom wedi cyrraedd hyd yn oed ardal Hedd Wyn. Tybed sut y canai ef am y newid a ddaeth dros fro ei febyd. Cyfranwr arall, ag sydd hefyd yn fyd enwog, yw'r Athro W. J. G. Beynon, Athro Ffiseg yn Aberystwyth, sydd yn ymddiddori yn yr ionosffer. Sonia am y brychau a welir ar yr haul ac am y cysylltiad rhyfeddol sydd rhyngddynt a llawer ffenomen ddaearol. Yn anffodus mae'n traethu gormod ar bwysigrwydd cydweithrediad rhwng y gwledydd yn y maes yma a ddim digon ar ganlyn- iadau'r cydweithrediad. Dyna beth fyddai o ddiddordeb i leygwyr, a gobeithio y cawn hyn ganddo eto. Fe ellir gwneud yr un feirniadaeth ar "Sefydliadau Diwydiannol Enwog". Mae rhain yn haeddu llawer mwy p eglurhad a llai o ystadegau. Mae'r modd y cynhyrchir dur yng Ngwaith Spencer, Llan-Wern, yn hollol newydd ac yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar waith un o Gymry Llundain yn gweithio yng Nghwm Afan yn agos i Bort Talbot yn ystod diwedd y ganrif o'r blaen. Wrth gyflwyno'r gyfrol dywed yr Is-Ganghellor Dr. Thomas Parry mai ymgais i ddiwallu'r chwilfrydedd mewn gwyddoniaeth yw'r Gwyddonydd, a chyfrwng hefyd i feithrin mwy o chwilfrydedd ymysg y Cymry sy'n darllen Cymraeg. Yn y rhifyn cyntaf hwn y mae'r cylchgrawn wedi llwyddo i wneud hyn. Mae wedi ei argraffu'n dda, yn edrych yn ddeniadol, ac yn bleser i'w ddarllen. Mae ei angen arnom "os yw ein hiaith i ddilyn datblygiadau'r oes wyddonol bresennol". Bydd yn amhrisiadwy yn ein hysgolion ac yn drysor i bob plentyn sydd a diddordeb mewn gwyddoniaeth. Syniad da yw cael geirfa i egluro rhai o'r termau a ddefnyddir yn yr erthyglau. Mae safon ganmoladwy yn y gyfrol gyntaf. Rhwydd hynt i'r Gwyddonydd ar ei daith a gobeithio yr â o nerth i nerth. Abertawe Dr. D. Eurof Davies