Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU ADDYSG DDWYIEITHOG YNG NGHYMRU. Gan W. R. Jones. 141 tud.; Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, Caernarfon, 1963 (9/6) Y mae'n bleser croesawu llyfr hylaw ar bwnc mor bwysig. Rhaid dweud yn blwmp ac yn blaen fod Mr. W. R. Jones wedi rhoi golwg clir a chryno ar y maes, un y bydd raid i bawb sy'n ymddiddori ynddo sylwi arno cyn mynd ymhellach. Yr oedd angen am arolwg o'r fath ar gyfer athrawon a lleygwyr diwylliedig ac hyd yn oed i'r arbenigwr bydd y llyfryddiaeth o werth. O bosibl y byddai rhestr gynnwys fanylach neu fynegai wedi ychwanegu at werth y llyfr, er fod ei batrwm rhesymegol yn help i ddod o hyd i unrhyw bwynt a geisir. Crynodeb yw'r bennod gyntaf o hanes y frwydr am addysg ddwyieithog ac fe gymer hanner y llyfr, gan derfynu â theyrnged deilwng i waith Dan Isaac Davies. (Wrth fynd heibio oni haedda'r gair hwn ei gofio â llyfryn Gwyl Dewi o Wasg y Brifysgol. Mae dynion llai eu cyfraniad i ysgolion Cymru wedi eu cofiannu yn y modd hwn.) Darlun o'r cefndir seicolegol a geir yn yr ail bennod, gan ddechrau drwy bwysleisio'r angen am fwy o ymchwil ar y problemau a gyfyd o bolisi dwyieithog. Olrheinir yma'r astudio a fu ar berthynas dwyieithogrwydd a deallusrwydd; h.y., a yw plant dwyieithog yn llai deallus na phlentyn uniaith. Tueddai'r ymchwilwyr cyntaf i ddweud ei fod ond o berffeithio arfau mwy pwrpasol at y gwaith, gwelwyd na ellid bod yn sicr. Sylweddolwyd fod anhawster i ddarllen Saesneg, diffyg arfer beun- yddiol o'r Saesneg, byw yn y wlad neu mewn tref a sefyllfa economaidd a chymdeithasol y rhieni, i gyd yn eu tro yn dylanwadu ar gyraeddiadau plant yn y profion a ddefnyddid. Er nad oes ateb terfynol efallai, ond odid nid dwyieithrwydd per se sy'n cyfrif am unrhyw ddiffyg mewn deallusrwydd yn y plentyn o Gymro. Yn y drydedd bennod pwysleisir mai problem addysgol ac nid problem ieithyddol yw dysgu ail iaith. Adolygir y gwahanol ddulliau o'i dysgu gan ofyn o hyd y cwestiwn sylfaenol, sef pa arweddau o'r iaith y ceisir eu dysgu. Rhaid wrth ddull gwahanol i ddysgu plentyn yn ysgol y babanod i siarad, rhagor na dysgu plentyn^un ar bymtheg i ateb papur arholiad o dan y drefn bresennol. Tu cefn i hyn oll mae'r amgylchedd, y cartref, yr ysgol a'r gym- deithas, heb sôn am y gallu cynhenid i ddysgu iaith, gallu sy'n amrywio'n ddybryd o blentyn i blentyn. Ymhlyg â'r pethau hyn mae agwedd y plentyn a'i rieni at ddysgu Cymraeg. Y mae agwedd y cartref yn holl bwysig. Ter- fyna'r llyfr drwy ofyn am lawer o ymchwilio eto ar y cwestiynau hyn ond yn bennaf oll am weledigaeth o'r fath a ysbrydolodd Stephen Hughes a Gruffudd Robert. Mae tri atodiad, y cyntaf yn adargraffiad o erthygl "Hanner Pendrwm" o'r Cronial, Chwefror a Mawrth 1846. Gogleisir cywreinrwydd i ddyfalu pwy oedd y gwr craff hwn a feddai ar syniad mor glir am anghenion plant Cymru ei oes.