Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffugyrau y Bcibl. Dyna'r term a roes y Parch. John Williams, y Rhos, i gyfres o ysgrifau a anfonodd i'r Greal (Bedyddwyr) yn 1855-56 ar natur Esboniadaeth Feiblaidd ac ar Ddehongliaeth Ysgrythurol yng ngolau'r Testament Groeg. Cyhoeddwyd y gyfres mewn cyfrol hwylus yn 1890, ac nid difudd i bwrpas addysg yr Ysgol Sul fyddai ei darllen yn 1962. Prif amcan yr awdur wrth eu hysgrifennu ydoedd "galluogi'r darllenydd ddehongli'r ysgrythurau yn y testun gwreiddiol." "Gan na ellir trosglwyddo meddwl unrhyw awdur drwy'r cyfieithiad gorau, unig obaith yr efrydydd i'w ddeall ydyw dyfod ato'n ddigyfrwng." Dyletswydd yr esboniwr, gan hynny, meddai, ydyw dehongli'r iaith wreiddiol, ac nid dehongli cyfieith- iad, hynny yw, "dehongli ar ail law." Y mae'n amlwg fod John Williams yn synhwyro o bell beth o feirniadaeth ar yr ysgrifau hyn, oblegid fe'i ceir yn ei amddiffyn ei hun o leiaf ddwywaith. Ond ni fynnai newid ei ddull o drin a thrafod ei bwnc; meddai, "am nad oes ffordd arall o wybod y pethau hyn." Ond a chydnabod hawl yr awdur i'w ffordd ei hun, sylwn fod teitl a chynnwys yr ysgrifau yn ddieithr i lygad a chlust y Cymro, ac yn arbennig felly yn agos i gan mlynedd yn ôl. Meddylier am y term Ffugyrau y Beibl, ac ambell derm arall megis "Y Dansoddol am y Cynodol"; "Diffygiaeth"; "Hina Plerothe," etc., etc. A phe deallai'r Cymro y teitlau hyn ac is-deitl y gyfrol — "Dehongliaeth" — fe sylwai wedyn fod y dehongliad ar linellau lled anghyfarwydd i ddeiliaid yr Ysgol Sul yng Nghymru. Y mae sylw'r diweddar brifathro John Griffiths, Caerdydd (brodor o'r Rhos), ar y gwaith "fel y gofgolofn mwyaf parhaol i ysgolheictod J. Williams" yn hanner awgrymu'r rheswm am ei fethiant-yr oedd y gwaith yn rhy ysgolheigaidd i amgyffred- iad y werin ddarllengar. "Nid oes gyfrol debyg iddi hi yn y Gym- raeg na chwaith, hyd y gwn i, yn Saesneg. Trawodd ar gynllun newydd a gwreiddiol a thorrodd lwybr newydd," meddai yn Seren Gomer 1933. Efallai y buasai'r gwaith yn fwy pwrpasol i efrydwyr yn eu blwyddyn gyntaf, dyweder, mewn athrofa: oblegid y mae'n debycach i "Werslyfr" nag i esboniad yn ystyr gyfyng arferol y gair. Gallasai fod yn nes at gyrhaeddiad meddwl y rheini nag at gyr-