Profiad Souvestre ym Mharis. YM myd beirniadaeth lenyddol, fel mewn cylchoedd eraill, y mae ffasiynau yn newid, yn mynd ac yn dod. Tua chanrif yn ôl daeth y syniad o 'lenyddiaeth bur' i'r golwg. Arwyddair ei gefnogwyr oedd 'Celfyddyd er mwyn Celfyddyd,' Ars Gratia Artis. O hyn ymlaen meiddbeth mewn llenyddiaeth oedd mymryn o ddysgeid- iaeth, ac yr oedd llenyddiaeth hyfforddiadol neu athrawiaethol yn ddirmygus. Gwgai'r beirniaid hyd yn oed ar weithiau o ddychymyg eang a harddwch gwefreiddiol fel 'Ancient Mariner' Coleridge, am eu bod yn cynnwys llinellau moeswersol. He prayeth best who loveth best All things both great and small, For the dear God who loveth us He made and loveth all. Ofer oedd haeru bod llinellau tebyg wedi rhoi pleser o'r mwyaf i lu aneirif o ddarllenwyr. Yng ngolwg y beirniaid ael-uchel yr oeddynt yn fefl ar berffeithrwydd gwaith bardd. Nid oedd digon o wenwyn yn eu hysgrifbinau i draethu eu hanfodlonrwydd a'u gelyniaeth.. Parhaodd awdurdod y beirniaid hyn am gyfnod hir a bu'n rhwystr mawr i lwyddiant ysgrifenwyr o fath Souvestre. Y mae beirniadaeth y llenorion pur' wedi bwrw ei chysgod ar waith llenyddol Souvestre hyd y dydd hwn. 'Yn anffodus ennillodd iddo ei hun yr enw o ysgolfeistr mewn llenyddiaeth. Ceisiodd wneud ei nofelau yn ddefnyddiol, ac o ganlyniad y maent yn sych fel gwerslyfr. 'Y mae ynddo fwy o ddifrifwch na dychymyg ei genedl.' 'Y mae'n biti iddo gyfansoddi ei storïau er mwyn dysgu gwers Y mae ei hoffter o bregethu yn wrth-artistig.' Dyna ddogn o feirniadaeth lem y 'llenorion pur.' Y mae mwy o gydymdeimlad a dirnadaeth gan un o'n beirniaid ni, y diweddar R. Silyn Roberts: 'Byddai llên Ffrainc yn llawer tlotach pe tynnid ohoni athrylith y Llydawiaid, ac yn eu plith y Llydawr Emile Souvestre.' Os gwrthodir elfen moesoldeb mewn llenyddiaeth, beth a ddywedir am chwedlau a storïau'r werin, lle mae daioni ar y blaen