haws fyth i ni 'nawr droi at y gwreiddiol os mynnwn eu cael yn gyflawn ac yn Gymraeg. I'r Cymry di-Gymraeg ar bob ochr Môr y Werydd bydd y cyfieithiad o'r llythyrau hyn i'r Saesneg yn gaffaeliad mawr. Nid dyna unig gymwynas Mr. Conway â ni chwaith. Mae ei Ragymadrodd, ac hefyd ei ragarweiniad i bob dosbarth o lythyrau yn werthfawr ac awgrymog. Bid sicr mae'n mynd dros dipyn o dir a oedd yn adnabyddus i ni eisoes, diolch i ysgrif- au yr Athro David Williams, yr Athro Dodd, llyfr Mr. T. H. Lewis ar y Mormoniaid ac i ddarlithiau'r diweddar Bob Owen. Ond cawn yma wybod- aeth fanylach am ymfudwyr ail hanner y ganrif, yn enwedig y gweithwyr diwydiannol a'u problemau. Rhoddir inni hefyd gyfolwg o'r ymfudo Cymreig yn toddi i gefndir datblygiad cenedlaethol newydd yr Unol Daleithiau. Ond mwy na dim efallai y mae gan lythyrau'r bobl ddistadl hyn apêl arbennig i ni; pobl ydynt nad yw eu henwau'n cyfleu dim inni, ond mae eu hymdrechion, eu gwasgfeuon a'u gobeithion yn rhan o'n hetifeddiaeth genedlaethol. Mewn mwy nag un o'r llythyrau ymdeimlwn nid yn unig â thynged rhyw Gymro unigol ond â phrofiadau yr hil ddynol yn gyffredinol. Y blynyddoedd a welodd yr ecsodus mawr o Ewrop sydd o dan sylw yn y gyfrol, sef y ganrif ddiwethaf. Trefnodd y Golygydd y llythyrau yn gelfydd i gyflwyno patrwm yr ymfudo, ac er i hynny olygu rhannu ambell lythyr yn ddau a chynnwys un darn ohono mewn un bennod a darn arall mewn pennod arall (megis ar td. 20 a 56) eto i gyd mae'n effeithiol. Dengys i'r ymfudo Cymraeg allan o ardaloedd y setlo cyntaf yn Efrog Newydd, Pennsylvania ac Ohio gadw'n gyson i ogledd y llinell Mason-Dixon, drwy Illinois, Wisconsin, Iowa, i Missouri, Kansas a Nebraska, ac yn niwedd y ganrif i Oregon a Wash- ington, a bod y ddwy ymgais i dorri ar y patrwm hwn, sef yn Tennessee ac yn Texas, wedi methu. Er y gellid dadlau mai anawsterau annisgwyl a ddyrysodd gynlluniau S.R. mor fuan, eto cred Mr. Conway na fyddai'r arbrawf o sefydlu Gwladfa Gymreig yn Tennessee wedi llwyddo yn y pendraw hyd yn oed pe gellid fod wedi osgoi y trafferthion cynnar. I leiafrif yn unig yr oedd y breuddwyd o Wladfa Gymreig yn cyfrif medd ef. Yr oedd y mwyafrif mawr, er mor awyddus i gadw'n agos at eu perthynasau a'u ffrindiau, ac er mor gyndyn i ollwng gafael ar eu harbenigrwydd fel cenedl, eto i gyd yn barod i fodloni ar sicrhau yn unig ran o'u cynhysgaeth cenedlaethol, y rhan bwysicaf a'r fwyaf aruchel bid sicr, sef y crefyddol. Ond iddynt gael capel Cymraeg i addoli ynddo neu'n wir oedfa neu bregeth yn yr hen iaith yn unig, bodlonent ar ddcfnyddio'r Saesneg i bethau bywyd pob dydd. Eithr llwyddodd y genedl ifanc a ddatblygai mor gyflym i roi nôd a delfryd iddynt a enillodd eu bryd. Fel grwpiau cenedlaethol eraill, rhai ohonynt lawer mwy eu nifer na'r Cymry, ni fedrent ac ni fynnent wrthsefyll y llif Americanaidd. Nid oedd yr atynfa o du Cymru ei hun yn ddigon cryf i'w cynorthwyo i wrthsefyll. Yn wir onid rhywbeth tebyg a fu hanes y genedl gartref hefyd wyneb yn wyneb â'r llif Prydeinig? Ym marn Mr. Conway yr oedd tynged y Gymraeg yn America yn anochel ar sail rhif yn unig. Ac yn ei Ragair mae'n awgrymu mai tebyg a fydd tynged yr iaith yng Nghymru ei hun. Prin bod angen y