newydd ddigon yn Gymraeg. Mae'n orlawn o syniadau ond wedi ei hysgrifennu mor llyfn a gloyw nes ymddangps yn dwyllodrus o syml; amlwg hefyd ei bod wedi ei hamgyffred yn ddiriaethol, gyda rhyw blentyn neu'i gilydd ym meddwl yr awdur ar hyd y ffordd. Sonia am ddulliau newydd o fesur. pethau fel poblogrwydd plentyn ymhlith ei gyd-ddisgyblion, neu fel arall, awgryma y gall athro gael help oddi wrth 'brofion' o'r fath. Y mae fy holl ragfarnau a'm profiad i yn erbyn y math yma o dechneg; gwyddom fod dulliau o'r fath mewn bri mawr mewn ysgol a. choleg yn yr Unol Daleithiau nes mynd yn rhemp. Credaf nad da digymysg yw'r duedd yma i ddosiereiddio holl agweddau bywyd plentyn ysgol nes gwneud pob un yn y dosbarth neu'r ysgol yn bwnc 'astudiaeth' o ryw fath: un perygl yw i'r peth fynd yn ddiben ynddo'i hun. O'm rhan i, a gwn mai dyna yw barn llawer o athrawon profiadol eraill, gwell gennyf beidio cael gwybod ymlaen llaw ormod o bethau am blant a ddaw i'm dwylo, er mwyn i mi gael eu cymryd fel y maent. Ond, i fod yn deg, mae hon yn bennod werthfawr iawn, ac anaml y dois i ar draws traethu mor ddi-lol ar berthynas athro a disgybl, a lIe a gwerth disgyblaeth wrth addysgu. Anodd iawn fyddai i mi roi barn ar gynnwys pennod Mrs. Auriol Watldn ar y Plentyn Annormal, sef y plentyn â rhyw nam corfforol neu feddyliol arno, a hynny am nad oes gennyf ddim profiad yn y maes hwnnw,-na rhagfarnau, gobeithio! Dyma faes sy'n cael mwy a mwy o sylw y dyddiau hyn, canys araf iawn fuom yn cydnabod ar hyd y blynyddoedd bod eisiau triniaeth arbennig ar y fath blant. Hoifais naws ymarferol a thosturiol y bennod hon gan ei bod yn gosod o'n blaen yn gadarn mai ein braint a'n dyletswydd yw rhoi holl gyReusterau addysg i blant felly. Efallai mai gan y Canon Halliwell wrth draethu ar Dysgu am Dduw yr oedd y dasg anhawsaf am fod y gwaith hwnnw yn ei hanfod yn anhraethadwy anodd. Nid oes yma ymgais i roi inni ryw ffordd arbennig o "ddysgu' crefydd, dim ond nodi'r syched am wybod am Dduw sydd yng nghalon dyn, ac felly mewn ffordd gywrain yng nghalon plentyn, gan fynd ymlaen i drin ychydig ar bwnc addoli yn yr ysgol, a rhai dulliau i geisio cysylltu crefydd ag astud- iaethau eraill. Mae'n nodweddiadol bod y bennod hon yn llaî thearÏaidd na'r rhai o'r Ileill, am iddi symud yn gyflym i fyd 'personau/ gan mai Person (ac nid 'damcaniaeth') yw Duw i'r credadun. Y mae i'r llyfr fynegai defnyddiol, geirfa fer yn diffìnio'r termau technegol a ddefnyddir yng nghorff y gwaith, rhestr o bynciau i'w trafod, ac awgrymiadau at ddarllen pellach ar y pynciau yn Gymraeg. Fel y nodais eisoes, mae yma ddefnyddio helaeth ar dermau-technegol y wyddor am y tro cyntaf yn Gymraeg, a gwneir hynny ar y cyfan yn fedrus. Eithr y mae ynddo ambell frawddeg afrosgo ei chystrawen lle mae'r syniad wedi ymffurfio ym meddwl yr awdur mewn ymadroddion Saesneg, a'r hyn a wnaed oedd rhoi geiriau Cymraeg yn 11e'r rhai Saesneg. Trueni yw hyn, a chwithig yw'r canlyniad. Nid oes llawer ohonynt ond sylwais ar hon (t. 51)