ADOLYGIADAU YSGRIFAU AR ADDYSG, y Gyfrol Gyntaf—Y Plentyn Ysgol, gol. Jac L. Williams. Gwasg Prifysgol Cymru, 1962. Tt. vii + 119. 10/6. Hyfrydwch mawr yw cael croesawu'r llyfr hwn yn gyfrol gyntaf o astud- iaethau yng ngwyddor addysg gan y Gyfadran yng Ngholeg Aberystwyth. Gallaf feddwl am lawer rheswm dros gael y math yma o lyfr, ac yn eu plith nodwn y ffaith bod galw amdano am fod llawer o'n colegau bellach yn hyfforddi athrawon trwy gyfrwng y Gymraeg; at hynny, er bod digonedd os nad gormod o lyfrau fel hyn wrth law yn Saesneg, tuedd dyn wrth eu darllen yn yr iaith honno, a'u cael yn ystrydebol a hyd yn oed yn sibolethol eu hiaith, yw peidio â'u darllen yn fanwl a meddylgar. Ac er dangos parch mawr i addysg yng Nghymru ar hyd y blynyddoedd, ychydig mewn gwirionedd o ysgrifennu goleuedig a beirniadol-nid difrÏol-a gawsom hyd yn hyn, sef y math hwnnw o ysgrifennu sy'n holi ynghylch y sylfeini. Ceir yn y llyfr hwn saith bennod i gyd, a phob un gan gyfrannydd gwahanol, o'r gyntaf gan gyn-bennaeth y Gyfadran, yr Athro Idwal Jones, ar Amcan a Phwrpas Addysg hyd y bennod olaf ar Dysgu am Dduw gan y Canon T. Halliwell, Prifathro Coleg y Drindod, Caerfyrddin, gwr sydd wedi dysgu Cymraeg yn ddigon da i fentro cyfansoddi fel hyn ynddi. Penodau cwta, a mwy neu lai 'ffeithiol' eu cynnwys, yw un R. Gerallt Jones ar Ddatblygiad Plentyn Normal ac un Robert M. Jones ar Personoliaeth y Plentyn, Diau bod y ddau'n sylweddoli cystal â neb mai cryn ryfyg oedd ceisio cwm- pasu'r pynciau hyn mewn pytiau o benodau gan fod, mae'n siwr, gannoedd o gyfrolau helaeth wedi eu 'cyfansoddi' eisoes arnynt, yn Saesneg a ieithoedd eraill: yn wir mae'n berygl bod gennym ormod o'r Uyfrau hynny sy'n damcaniaethu'n ysgafala a hunan-bwysig ynglyn â thwf a chymeriad plant nes i'r peth fynd yn rhyw ddiben ynddo'i hun. Eithr er eu byrred mae'r ymdriniaeth yn y ddwy bennod hon yn gryno a diymhongar. Hoffais yn arbennig bennod W. J. Lewis ar Galluaedd Plentyn a'r dulliau a ddefnyddir gan addysgwyr i geisio mesur deallusrwydd cynhenid plentyn. Credaf i mi gael mwy o fudd o hon nag a gefais o lawer ymdriniaeth debyg yn Saesneg, a hynny, mi gredaf, am fod y mater mewn diwyg 'newydd' ac felly'n gorfodi dyn i ddarllen yn fwy manwl. Cerdda'r bennod rhagddi o gam i gam yn drefnus ei dull, a sobr a theg ei barn. Dylai pobl sy'n cwyno ar ddulliau dewis cyrsiau i blant yn unarddeg oed ddarllen hon yn fyfyriol cyn condemnio'n anystyriol. Yn wir, awn i mor bell â datgan na ddylai neb na all ddeall y bennod hon a 'threulio'i' chynnwys fyth feddwl am fod yn athro. Yna daw pennod gan y Golygydd ar Cysylltiadau Cymdeithasol y Plentyn. Hon yw'r bennod hwyaf yn y llyfr, ac y mae'r math yma o ymdriniaeth yn