oedd atgoffa'r beirdd o'r stoc o chwedlau y disgwylid iddynt allu eu hadrodd, ac felly yr oeddynt yn fynegai i'r traddodiad ac yn allwedd i gof cenedl. Diflannodd y rhan fwyaf o'r storïau sydd y tu ôl i'r Trioedd, ond y mae'n sicr y gwyddai'r beirdd am y chwedlau pan gyfeirient at gymeriadau a digwydd- iadau a enwir yn y testun. Gyda threigl amser, ac fel y gwanychodd y traddodiad, defnyddid y Trioedd gan y beirdd diweddarach fel chwarel enwau yn unig a chollwyd yr ymwybod hwn â'r storiau eu hunain. Craidd y casgliad oedd y chwedlau mytholegol, y rhai hanesyddol a'r rhai a ymwnâi â'r hen Ogledd, ond fel y dôi'r beirdd a'r cyfarwyddiaid i gysylltiad nes â llenyddiaeth newydd y Cyfandir, y Rhamantau a llyfr 'hanes' Sieffre o Fynwy, ehangid testunau'r chwedlau, ac ar ôl 1200, pan ddechreuwyd cyfieithu'r llyfrau Lladin a Ffrangeg i'r Gymraeg, daw cyfeiriadau newydd i mewn i'r cerddi a'r Trioedd, er nad oes rhaid tybio, efallai, fod diffyg gwybodaeth y beirdd o Ladin mor llwyr ag yr awgrymir yma. Erbyn y 14g. gwelir amlhau'r cyfeiriadau llen- yddol hyn fel y gwanhai'r traddodiad llafar. Un o effeithiau amlwg y newid, hyd yn oed o gyfnod pur gynnar, yw'r sylw cynyddol a roddir i Arthur a'i lys fel y cymerai ef le'r hen arwyr a enwid mewn trioedd cynharach. Awgrymir fod y casgliad sylfaenol ar gael tua 1060, os yw syniadau'r awdur am le'r trioedd yn y Pedair Cainc yn gywir, er na ellir olrhain hanes y llawysgrifau ymhellach na thua hanner cyntaf y 12 g. Y tu ôl i'r casgliad ysgrifenedig y mae traddodiad llafar y 9g. a'r 10g. Amhosibl fyddai nodi holl ragoriaethau'r llyfr hwn. Y mae'r Rhagymadrodd ar ei hyd yn ddiddorol ac yn llawn awgrymiadau, ond hwyrach y gellir galw sylw yn arbennig at y goleuni newydd a deflir ar ffynonellau Sieffre o Fynwy ac ar ddatblygiad y Chwedl Arthuraidd yng Nghymru, at ffrwythau cymharu'r Trioedd â'r chwedlau a gadwyd ac at y ddamcaniaeth am gysylltiad y beirdd a'r cyfarwyddiaid ag 'awduron' y chwedlau hynny. Y mae'r Nodiadau i bob triawd yn goleuo ac yn egluro'r cynnwys, ond efallai mai adran fwyaf gwerth- fawr yn y llyfr yw'r Nodiadau ar Enwau Priod. Gan fod bron pob cymeriad sydd yn y Mabinogion neu a enwir gan y beirdd yn eaellle mewn rhyw driawd neu'i gilydd, bydd mynegai fel hwn o fudd i bawb sy'n ymddiddori yn y maes. Ond y mae yma lawer mwy na mynegai syml. Casglwyd ynghyd yr holl gyfeiriadau at y cymeriadau, a chan ehanged gwybodaeth Mrs. Bromwich o farddoniaeth a rhyddiaith Cymraeg Canol a'r ffynonellau cytras, y mae'r ym- driniaeth hon yn peri i'r adran fod yn Fywgraffiadur i'r traddodiad arwrol a chwedlonol Cymraeg, ac i'r Trioedd fod, unwaith eto, yn fynegai ac yn allwedd i'r traddodiad hwnnw. BRYNLEY F. ROBERTS IEITHYDDIAETH. AGWEDDAU AR ASTUDIO IAITH. Gan T. Arwtjn Watkins. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1961. Tt. viii + 260. Ffig. 11. Pris 21/ Mae llyfrau ym maes ieithyddiaeth gyffredinol a'u rhif yn awr yn ffodus yn mynd ar gynnydd yn gyflym o'r naill flwyddyn i'r llall. Fe geir, a siarad yn fras, dri math: (a) rhai sy'n rhagdybied rhyw gymaint o wybodaeth ynglyn