Adolygiadau RACHEL BROMWICH (gol.), Trioedd Ynys Prydain. The Welsh Triads, Caerdydd. Gwasg Prifysgol Cymru, 1961. cxliv. 556 td. 84/ Nid anghyffredin yng Nghymru nac Iwerddon yr arfer o ddosbarthu enwau, storïau, egwyddorion neu ddigwyddiadau yn grwpiau o dri. Ceir y nodwedd hon yn yr hen lyfrau cyfraith Ue y rhestrir y dirwyon a godir am amrywiol droseddau yn drioedd, a hefyd yng ngramadegau'r beirdd sy'n cynnwys trioedd sy'n trafod peth o grefft y beirdd. Ond y casgliad helaethaf o drioedd yw'r rheini a elwir yn Drioedd Ynys Prydain; y rhain yw Y Trioedd. Y mae yma ryw 90 ohonynt, bob un yn cyfeirio at y chwedlau a'r traddodiadau a geid yng Nghymru'r Oesoedd Canol. Gan mai yn anfynych y ceir dau driawd yn sôn am yr un person, gellir casglu mor lluosog y cyfeiriadau hyn at ein hen lenyddiaeth. Cyfoeth y cyfeiriadau, i raddau helaeth, sy'n cyfrif am ddiddor- deb a phwysigrwydd y casgliad. Ychydig o chwedlau Cymraeg Canol a gadwyd inni heddiw, ond gellid tybio fod y cyfarwyddiaid a adroddai'r chwedlau yn gwybod am lawer rhagor, oblegid o'r braidd yr enillai dyn ei damaid wrth adrodd yr un storïau i bob cynulleidfa, pa mor fedrus bynnag y gwnâi hynny. Y mae'r holl chwedlau Gwyddeleg a oroesodd hyd heddiw yn awgrymu faint ein colled, a phrofir fod yma golled gan y cyfeiriadau at storïau a chymeriadau, na wyddom ond y nesaf peth i ddim amdanynt, yn yr hen farddoniaeth. Cawn gan y Gogynfeirdd yn yr 11 g. a'r 12 g. enwau a chym- ariaethau sy'n dywyll i ni, ac y mae'r awgrym o stori sydd mewn cerddi megis Preiddiau Annwfn neu'r ymddiddanion yn Llyfr Du Caerfyrddin yn peri i ddyn sylweddoli mor ychydig a wyddom am y chwedlau a'r hanesion a ddifyrrai dywysogion ac uchelwyr Cymru yn y Canol Oesoedd. Rhydd y Trioedd allwedd i lawer o'r hen storïau coll hyn. Nid ydynt yn adrodd unrhyw stori yn llawn, ond ambell dro rhoddant amlinelliad o stori sy'n egluro grym enw priod yn un o gerddi'r beirdd. Dro arall, y mae'r disgrifiad a roddir o gymeriad yn goleuo cyfeiriad ato mewn ffynhonnell arall. Wrth grynhoi ynghyd yr holl gyfeiriadau hyn, y mae'n bosibl weithiau ail- lunio braslun o chwedl, fel y gwnaeth Syr Ifor Williams yn ei ddarlith Hen Chwedlau, neu gellir casglu digon i ddangos fod gwahaniaethau arwyddocaol rhwng hen chwedl a'r ffurf sydd arni heddiw. Hyd yn hyn, yr unig argraffiad o'r Trioedd a oedd yn hwylus o fewn cyrraedd oedd y Mycyrian Archaiology (1807); ni ellid dibynnu ar hwn ac nid oedd ar gael unrhyw astudiaeth drylwyr o'r testun. Bellach y mae gennym yr argraffiad gorchestol hwn gan Mrs. Rachel Bromwich o Brifysgol Caer-grawnt, sy'n rhoi testun y Trioedd, wedi'i seilio ar yr holl gopïau llawysgrif a phrintiedig, ynghyd â chyfieithiad Saesneg ac ym- driniaeth werthfawr a manwl. Yn y Rhagymadrodd olrheinir twf a datblygiad y testun. Yn wreiddiol, help i'r cof oedd y Trioedd': fel y trioedd cyfraith a'r trioedd cerdd, ceir ynddynt wybodaeth wedi'i chyfleu mewn dull cryno cofiadwy. Eu swydd