Y TRAETHODYDD Y Tosturi Dwyfol. YMCHWIL YSBRYDOL PIERRE LOTI. Pan oedd Robert Louis Stevenson yn byw ar ynys Samoa, rhoddwyd iddo gan y brodorion yr enw Tusitala," hynny yw, Yr Hwn sy'n Adrodd Hanesion." Yr oedd hyn yn ddull gan Ynyswyr y De o anrhydeddu ymwelwyr cyfeillgar a thalentog. Yn yr un modd, rhoddwyd i'w gyfoeswr Ffrengig, Julien Viaud, gan frodorion Tahiti, enw Loti," yr hyn o'i gyfieithu yw Rhosyn Moroedd y De." Dyma ddau ŵr oedd wedi cyrraedd, am resymau gwahanol, ynysoedd yr hud ym mhen eithaf y byd. Ac yno, mae'n debyg iawn, yng nghanol ysblander y cwrel a'r cocoswydd, buont yn hiraethu yn aml, un am glogwyni serth yr Alban, a'r llall am benrhynnoedd Ffrainc a Llydaw. Nid oedd Pierre Loti yn Llydawr o waed coch cyfan, er iddo gael ei fagu yn ardal Saintonge, nad yw bell 0 oror deheuol Llydaw. Ganwyd ef o deulu Protestannaidd yn Rochefort, tref sydd yn ganolfan draddodiadol yr Huguenotiaid yng ngorllewin Ffrainc. Morwr ydoedd o ran ei alwedigaeth, ac fel pob morwr Ffrengig yn treulio llawer o'i amser ym mhorthladd Brest. Yno y daeth i adnabod Llydaw ac i'w charu fel mab gwirioneddol. Dyma'r cariad a fynegir yn ei ddwy nofel, Fy Mrawd Yves a Pysgodwr Ynys yr la. Yn y nofel gyntaf hon y mae Pierre Loti yn edrych ar y Llydawr Yves fel brawdmaeth, a dyna'r berthyn- as yn union y daeth i'w theimlo rhyngddo ei hun a'r Llydawyr yn gyffredinol. Pwy a ddarluniodd wlad Llydaw erioed yn well na Loti, gyda mwy o gydymdeimlad ac argyhoeddiad ? Nid yn unig y tir-olygfeydd ond y trigolion hefyd-y rhai sy'n byw ar arfor- dir Finistère, pysgodwyr Ynys yr Ia yn Paimpol a Plouezec, gwladwyr o froydd anghysbell fel Plouherzel yn y gogledd a Toulven yn y de. Y mae Loti yn eu gweld ac yn eu portreadu CYFROL CXV. RHIF 494. Ionawr, 1960. b