Breuddwyd a Llenyddiaeth. Pa un ai rheswm ai'r is-ymwybod yw'r gallu llywodraethol ym mywyd dyn ? Ai llunio ei lwybr ei hun y mae dyn, ynteu .1 yw'r llwybr hwnnw yn cael ei lunio iddo ? Ai ei allu creadigol ei hun sydd yn gwneud dyn yn fawr fel llenor neu fardd neu broffwyd, ynteu ai dyfod iddo ac arno y mae'r mawredd hwn, ac yntau heb fawr o reolaeth arno mewn bywyd ? A ydyw dyn yn gyfrifol am yr hyn ydyw a'r hyn a gyflawnir ganddo ? Nid oedd Amos na Jeremiah yn dewis proffwydo o'u bodd. Derbyn cenadwri oddi wrth Dduw a wnaent a pharod oeddynt i ddweud "ni lefaraf yn ei enw ef mwyach; ond ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn fy esgyrn, ac mi a flinais yn ymatal, ac ni allwn beidio." (Jer. xx, 9.) Ai'r llosgi fel tân yna yw grym y proffwyd ym mhob oes? "Ang- henraid a osodwyd arnaf, a gwae fydd i mi, oni phregethaf yr efengyl" (I Cor. ix, 16) yw profiad yr Apostol Paul. A ddylid clodfori Amos a Jeremiah a Paul a llu mawr eraill am y gwaith da a wnaethant, os cael eu defnyddio yr oeddynt ? Derbyn y neges a wnaent, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw." Der- byniai'r proffwyd ei neges drwy freuddwyd a gweledigaeth. Nid nyddu ei neges o'i reswm noeth ei hun a wnâi, ond ei derbyn. A dyna arwydd y gwir broffwyd ym mhob oes, "Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na'i gwrthsefyll (Luc xxi, 15). Onid dyna hefyd gyfrinach y gwir fardd a'r gwir lenor? Rhaid i wir fawredd ym mhob ffurf arno fod wedi ei ysbryd- oli, ac fel rheol daw yr ysbrydiaeth yn anymwybodol i'r person a ysbrydolir, a pheri iddo lefaru a chynhyrchu a gweithredu mewn ffordd anghredadwy, ac yn aml y tu hwnt i'w allu medd- yliol a chorfforol. Daw ryw ddylanwadau o'r tu allan i gyffwrdd â ryw ddylanwadau cudd ym mywyd dyn, a digwydd ffrwydriad, ac yn y .ffrwydriad greadigaeth newydd. Daw llawer o'r dylanwadau allanol hyn i gyffyrddiad â'r dylanwadau mewnol sydd mewn dyn mewn cwsg neu freuddwyd, a phwrpas pennaf yr ysgrif hon yw dangos y rhan a gymerth