wr gwladol am aflonyddu ar heddwch y deyrnas. Ond wrth ddarllen y pamffledi hyn ni all neb amau nad mater o iachawdwriaeth eneidiau ei gyd- wladwyr a'i gyrrodd i feirniadu esgobion a chynnig gwelliannau ar y gyfundrefn eglwysig. Ysgrifennodd y traethawd cyntaf, sef A Treatise containing the Aeauity of an humble supPlication, (46 tudalen o'r llyfr hwn) y flwyddyn y gadaw- odd y Brifysgol, 1587, ac fe'i cyflwynwyd i'r Senedd. Ynddo pwysleisiodd gyflwr adfydus y werin Cymraeg heb wybod am drefn achubol Duw oher- wydd prinder gweinidogion addas a allai bregethu iddynt yn yr unig iaith a fedrent ddeall, y Gymraeg. Apeliodd am gyflenwad o weinidogion neu hyd yn oed wŷr lleyg i lanw'r bwlch. Rhaid hefyd oedd brysio i orffen y cyfieithiadau o'r Ysgrythurau nes eu cael yn gyflawn yn Gymraeg. Nid yw Penry yma yn ymosod ar esgobyddiaeth y gelynion mawr yma yw difaterwch, anwybodaeth ac ofergoeliaeth, ac fe gawn gip diddorol ar gyflwr y werin Gymraeg yn ei ddydd. Eto'i gyd mewn canlyniad i'r cyhoeddiad hwn fe'i gwysiwyd o flaen Llys yr Uchel Gomisiwn, ac er na chafodd ond penyd ysgafn o fis o garchar, eto teimlodd Penry iddo gael cam, ac mae'i ddau bamffled sy'n dilyn yn llawer mwy chwyrn eu geirfa a mwy eofn eu syniadau. Yn yr ail, sef, An Exhortation unto the Governors and people of His Majesties Countrie of Wales (52 td.), clywn lai am gyflwr alaethus Cymru a mwy am y gweinidogion mud a oedd yn fwrn ar y wlad, Ymesyd yn awr ar esgobion Cymru, yn enwedig am iddynt apwyntio'r fath weinidogion. Mewn atodiad mae'n profi nad gwir weinidogion mo'r offeir- iaid a ddarllenai yn unig. Rhaid i'r gweinidog gael galwad fewnol at ei waith. Apeliodd ymhellach at y Cyfrin Cyngor gan fod yr amser yn prinhau a'r Sbaenwyr wrth y drws. Yn y trydydd traethawd, A Viewe of some part oí such fublicke Wants. Disorders as are in the Service of God within H.M.'s countrie of Wales; a Sufflication unto the High Court of Parliament (68 td.) dadleua fod anghenion Cymru yn ddeublyg, yn gyntaf rhaid wrth bregethu'r Gair, yn ail rhaid wrth ddiwygio'r drefn eglwysig. Yma ym- esyd ar esgobyddiaeth fel goroesiad ffiaidd o'r drefn babyddol, a chwbl anysgrythurol. Deil bod dros ddeng mlynedd ar hugain wedi mynd heibio er pan ddymchwelwyd Babilon y Babaeth yng Nghymru, ac eto nid adeil- adwyd Seion yno. Yn ystod misoedd olaf ei fywyd datblygodd Penry ei syniadau am ryddid crefyddol mewn llyfr The Historic of Corah, Dothan and Abiram, nas cyhoeddwyd hyd 1609, gwaith sydd, yn ôl yr Athro Williams, yn hawlio He uchel yn hanes goddefiad crefyddol yn ein gwlad. Ysgrifennwyd y pamffledi dan sylw yma cyn i Penry ffoi i'r Alban ac ymbellhau, yn naturiol, oddi wrth Eglwys Loegr, ac ymhell cyn iddo ymuno â'r eglwys o Ymneültuwyr yn Southwark. Felly cfer. disgwyl am ddim yma i dorri'r hen ddadl pa un ai Annibynnwr, ai Ail-Fedyddiwr, ai Presbyteriad ydoedd mewn gwirionedd, er, fel y gwelsom erbyn cyhoeddi pamffled olaf y .gyfres hon yr oedd yn ddi-ddadl yn dal syniadau Presbyteraidd. Eithr hyd yn oed yn y cyfnod hwn yr oedd eisoes yn credu bod pregethu yn hanfodol,