Adolygiadau. THREE TREATISES CONCERNING WALES, by John Penry, with an Introduction by David Williams. Gwasg Prifysgoî Cymru 168 td., pris 25/ Y mae'n anodd i ni Ymneilltuwyr Cymreig sylweddoli nad oes ond prm ganrif er pan ddaeth gyrfa John Penry yn rhan fyw o'n hetifeddiaeth cenedlaethol a chretfyddol. Eithr dengys yr Athro David Williams i ni unwaith eto yn ei ragymadrodd byr (rhyw ugain tudalen) i'r cyhceddiad hwn 4 rai o weithiau Penry ei hun, i'r cof amdano farw'n Uwyr yng Nghymru ar ôl ei ddienyddiad yn 1593, nes yr adferwyd gan Thomas Rees yn ei lyfr History oj Protestant Nonconformity in Wales yn 1861. Yn nhymheredd arbennig hanner olaf y ganrif ddiwethaf, gyda'i diddordeb byw mewn egwyddorion Ymneilltuaeth a'r deffroad i ymwybyddiaeth cenedl- aethol, nid rhyfedd i'r stori drist afael yn nychymyg y werin Gymraeg. Eto nid oedd yn hawdd i'r darllenwr cyffredin gael gafael yng ngeiriau Penry ei hun (ar wahân i'r traethawd cyntaf, a gyhoeddwyd yn 1905 gan Gymdeithas Hanes yr Annibynwyr Saesneg); yr oedd llawer o'r llaw- ysgrifau yn America, a'r copïau prin o'i weithiau argraffedig ynghudd niewn llyfrgelloedd yn y wlad hon. Yr oedd yn agored felly i ysgrifenwyr gwrth-Ymneilltuol a gwrth-Gymreig i ddadlau mai'r myth am John Penry oedd yn bwysig, ac yn wir i honni na fedrai ei weithiau ysgrifenedig ddal pwysau'r holl edmygedd a dywalltwyd mor hael ar stori ei fywyd. Cymwyn- as fawr felly yw i'r Athro Williams .gyhoeddi'r testunau hyn sydd yn ein Llyfrgell Genedlaethol bellach yn ogystal ag yn yr Amgueddfa Brydeinig. Rhaid cofio mai tri thraethawd ar Gymru yn unig a gyhoeddir yma. Ni cheir yma yr hyn a sgrifenodd yn yr Alban, na'r geiriau a ddefnyddiwyd yn sail i'w brawf ac i'w goll-farnu, nac ychwaith ei amddiffyniadau a'i apeliadau at Burghley a'r frenhines ar derfyn ei oes. (Cyhoeddwyd yr olaf hyn eisoes, ynghyd â'i ddyddlyfr, gan Dr. Albert Peel yn 1944.) Ni cheir yma chwaith ddim goleuni pellach ar broblem astrus Martin Marprelate, gan i'r tri traethawd hyn ymddangos o flaen y pamffledi hynny, er i'r ail a'r trydydd ohonynt ddyfod o'r un wasg gudd, ond yn dwyn enw eu hawdur. Cawn yma serch hynny ddigon o brawf mai ei fawr sêl dros achub eneidiau ei gyd-wladwyr a symbylodd holl lafur Penry ac a'i harweiniodd i chwilio am foddion tuallan i dTefn Eglwysig Elisabeth i gyrraedd ei nod. Am hynny y bu'n rhaid iddo dalu'r pris eithaf, gan na fedrai Elisabeth oddef unrhyw un i sarnu ar drefn ac unffurfiaeth ei hadeiladwaith eglwysig, pa mor ddidwyll bynnag ei eiriau o barch ac edmygedd ohoni hi fel person a brenhines. Cymrodedd oedd ei heglwysi a luniodd yn ofalus er mwyn osgoi yn ei theyrnas hi y rhyfeloedd crefyddol a rwygai wledydd y Cyfan- dir. Felly ni losgwyd Penry fel heretig eithr fe'i dienyddiwyd fel trosedd-