Adolygiadau HFRYDIAU ATHRONYDDOL, I960. Cyfrol xxiii. Gwasg Prifysgol Cymru. 58 tud. 4/6. Mae'n debyg mai o barch i Lywydd yr adran athronyddol am y flwyddyn, Mr. D. Jones Davies, y penderfynwyd cysegru y rhifyn hwn o'r Efrydiau i Addysg, pwnc sydd mor amlwg yn ein dyddiau ni a'i effaith ar athroniaeth cyn drymed â dylanwad athroniaeth arni hithau. Rhoddodd y Llywydd y teitl llednais Rhai myfyrdodau ar athroniaeth addysg i'r anerchiad sy'u agor y rhifyn. Geilw sylw cyson at yr agweddau "athrawiaethol sy'n dylanwadu gymaint ar y defnydd a wneir o ½ganlyniadau ymchwil, pa mor ddiduedd bynnag y bo'r canlyniadau eu hunain. Dengys fel y mae syniad- aeth am addysg wedi chwarae nhwng y ddau -begwn o addysg er mwyn y plentyn fel unigolyn ar y naill law ac er budd y gymdeithas y mae'n rhan ohoni ar y llaw arall. Mae Democratiaeth igymdeithasol yn gydnaws â pharch i'r unigolyn. Agwedd ar yr un ddeuoliaeth a geir yn erthygl Mt. E. Glyn Lewis ar "Y Ddau Draddodiad," y cyferbynnir ynddi safbwynt Lewis Edwards ac Emrys ap Iwan, y naill yn glasurol a rhesymegol a'r llall yn rhamantaidd. Mae gwead yr ymresymiad mor glos fel mai anhegwch â Mr. Lewis a fyddai ceisio rhoi crynhodeb o'i eiriau ond da y gwnaeth wrth ein hatgoffa o'r angen i gofio am y naill draddodiad fel y llall. Dichon er hynny y teimlodd an- hawster wrth drafod syniad Emrys ap Iwan am gynnwys addysg o'i gym- haru â chyfoeth y cyfeiriadau at syniadau Lewis Edwards ar yr un pwnc. Yn wir 'gellir 'gofyn faint o bwys a ddylid ei roi ar gyngor fel hwn o eiddo Emrys Darllenwch lyfrau'r Ellmyn er mwyn helaethu'ch gwybodaeth, llyfrau'r Ffrancwyr er mwyn dysgu iawn-drefnu'ch gwybodaeth, llyfrau'r Saeson er mwyn dysgu cymhwtyso'ch ,gwybodaeth a llyfrau'r hen Gymry er mwyn gallu ohonoch gyfrannu'ch gwybodaeth mewn dull Cymreig i'ch cyd- wladwyr." Y Gymraeg fel cytrwng-a'r cynnwys oddi tramor? Gall Emrys ap Iwan ddod yn agos iawn at Lewis Edwards weithiau! Fel y digwydd, mae astudiaeth yr Athro Eric Evans o hinsawdd meddwl Cymru o 1880 i 1896, Datblygiad Syniadau Addysgiadol yng Nghymru yn olrhain rhai o'r tueddiadau yn y cyfnod sy'n dilyn. Diddorol iawn yw troi'r chwyddwydr ar feddwl cyfnod byr fel hyn, sydd ar drothwy y dat- blygiadau mawr o 1889 ymlaen. Edrych ymlaen y mae'r ddwy erthyrgl sy'n aros; y Dr. T. I. Davies ar Egwyddorion Addysg Wyddonol a Mr. W. R. Jones ar Gyfraniad Seicoleg i Addysg yng N'ghymru." Y ,gyn.taf yw'r unig erthygl sy'n mynd i mewn at y dosbarth gan drafod dulliau dysgu pwnc sydd yn gofyn ail feddwl sut i'w ddysgu. Safbwynt seicolegydd arbrofol yw eiddo Mr. W. R. Jones a chyfeiria ef at rai o ganlyniadau Profion Ymagwedd a roddwyd i blant sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith. Mae i rai o'r canlyniadau oblyg-