Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Owen M. Edwards Hanesydd a Llenor. I. 'D oes gan haneswyr heddiw, fe ymddengys, fawr olwg ar Owen Edwards fel hanesydd. Hanes, mae'n wir, oedd pwnc ei radd yn Aberystwyth ac yn Rhydychen. Cafodd yrfa ddis- glair iawn fel myfyriwr yng Ngholeg Balliol, ac wedyn bu'n athro hynod lwyddiannus a mawr ei barch yn Rhydychen am yn agos i ugain mlynedd. Dysgu hanes oedd prif waith ei fywyd ond odid — i'r myfyrwyr mewn darlith ac ymgom yn y coleg, ac i gynulleidfa o ddarllenwyr eiddgar yng Nghymru drwy du- dalennau'i lyfrau a'r cylchgronau a olygai. Ysgrifennodd lawer am hanes, yn Saesneg am haries Cymru, ac yn Gymraeg am hanes Cymru ac Iwrob, ac eto ni adawodd ar ei ôl unrhyw lyfr y gellir heddiw gyfeirio efrydydd difrif ato'n ddibetrus, dim un llyfr sy'n gofeb barhaol i ysgolheictod ac i waith ymchwil gwreiddiol yr awdur. "A llygad artist yn hytrach na thrwy chwydd-wydr chwilotwr y syllai ar y gorffennol," meddai'r Dr. R. T. Jenkins amdano. Rhaid derbyn y ddedfryd honno gan wr sy'n sicr yn hanesydd ac yn ysgolhaig mawr ei hunan. Ni faidd neb heddiw droi at Wales Owen Edwards, fel y mae'n rhaid i bawb ohonom o hyd droi at A History of Wales gan ei gyfoeswr J. E. Lloyd. Eto i gyd, ni olyga hyn nad oedd Owen Edwards yn hanes- ydd ac yn hanesydd go fawr. Y mae wedi'r cwbl fwy nag un math o hanesydd. Rhaid i bob hanesydd, debyg iawn, wrth wybodaeth, a gwybodaeth drwyadl a manwl iawn, wedi ei seilio ar ymchwil gofalus a pharch diymwad .i'r gwirionedd. Yr aii- hawster yw difìinio gwirionedd yr hanesydd yn foddhaol. Gall-