Crwydro wnês i. O'R braidd y bydd neb yn ysgrifennu heb amcan arbennig, ond nid yr un yw amcan pawb, ac fel y gwahaniaetha'r amcanion, felly y gwahaniaetha arddull a chynllun llenyddol yr un sydd yn ysgrifennu. Cofiaf ddarllen Gweledigaethau y Bardd Cwsg i bwrpas arholiad rhyw chwarter canrif yn ôl, a dysgu i'r awdur ddilyn rhyw lenor o Sbaen, a defnyddio y cynllun o "weledigaethau" er mwyn rhoi mwy o awdurdod i'w genadwri, drwy awgrymu nad ffrwyth ei feddwl a'i ddychymyg ei hun oedd yr hyn a ysgrifennodd; cyflwyno yn unig a wnaeth y genadwri a ddaeth iddo o ryw arall-fyd. Mae yna ryw atgof am y dull proffwydol o annerch pobl; nid y proffwyd sydd yn siarad, cennad yn unig ydyw ef, eiddo Duw ydyw'r geiriau,­-"Íelly y dywed yr Arglwydd." Mae yna bobl eraill, y llenorion sy'n dychanu, chwi gofiwch am chwerw goegni Swift, ac arabedd greulon Voltaire, dynion a dueddant i fychanu'r ddynoliaeth a thueddu i bortreadu yr ochr ddu yn unig i fywyd, ond eto gyda'r amcan arbennig o ddihuno cydwybod. Weithiau, wrth ddarllen gwaith y cyfryw fe'n temtir i ddweud, Wel dyma un sydd wedi cael adnab- yddiaeth lwyr o'r natur ddynol lygredig," gan anghofio mai cynllun llenyddol dychanu a ddefnyddiwyd: byddai yr un man i ni ddweud fod dyn sydd wedi astudio cofnodion am droseddwyr y wlad yn gwybod hanes y wlad i gyd. Arfer rhai ormodiaith i dynnu sylw at ryw wirionedd, — cof- iwn am yr Iesu yn sôn am y camel a chrau'r nodwydd. Mae eraill o'n plith yn or-ddifrifol a gor-bryderus ynglýn â phethau, ac y mae tipyn o hiwmor iach weithiau yn help i agor llygaid i weld pelydryn o olau yn lle twllwch dudew i gyd. Braidd yn wynepdrist a diobaith y gofynnodd Pedr i'r Arglwydd, o b'le y deuai'r arian i dalu'r dreth? "O enau'r pysgod," oedd ateb y Meistr. Drwy bysgota enillai Pedr ei fywoliaeth! Dull effeithiol iawn i ddysgu yw defnyddio dameg, hynny yw, adrodd stori, arfer pethau gweledig i ddangos drwyddynt bethau ysbrydol, a'r apêl felly at y deall, trwy ddweud eu bod