Y TRAETHODYDD Yr Eglwys Fore a'r Eglwys Heddiw. UN o bynciau amlycaf y dydd yn y cylchoedd crefyddol yw Undeb Eglwysig. Blinir llu o Gristionogion cywir a didwyll mewn llawer gwlad gan y rhaniadau amlwg a welir yn yr Eglwys fel corff gweledig Crist ar y ddaear. Clywsom lawer yn ddi- weddar am waith clodwiw y Mudiad Eciwmenaidd a'i ymdrech- ion i geisio dod a'r gwahanol gorlannau Cristionogol yn nes at ei gilydd fel y gallont ddeall eu gwahanol safbwyntiau yn well, gan obeithio y bydd hynny yn rhywfaint o gymorth i bont- io'r agendor amlwg sydd rhyngddynt ar hyn o bryd. Arwydd- air yr ymdrechion hyn yw Undeb Eglwysig. Cyn y gellir sicr- hau undeb rhwng y gwahanol enwadau rhaid cael athrawiaeth ddigonol a chadarn am yr Eglwys ei 'hun. Gall y gair eglwys olygu dau beth gwahanol iawn i'w gilydd i ddau berson a berthyn i wahanol enwadau. Er enghraifft, pan sonnir am eglwys wrth Annibynnwr meddylia am y gynulleidfa leol a ddaw ynghyd o Sul i Sul i'r capel lle'r addola ef. Ar y llaw arall pan grybwyllir am eglwys wrth Babydd meddylia am y sefydliad a estyn yn ôl trwy ganrifoedd hanes; rhwysg a pharhad didor a digyfnewid y sefydliad yw'r Eglwys iddo ef. Dehongla'r naill y term eglwys yn nhermau'r gynulleidfa leol sy'n uned ynddi ei hun, tra meddylia'r llall am yr Eglwys yn nhermau sefydliad hanes- yddol mawreddog, urddasol, a byd-eang. Amod cyntaf Undeb Eglwysig yw athrawiaeth glir a digonol am yr Eglwys. Dangos- odd y diweddar Archesgob William Temple hyn mor bell yn ôl â 1937. Mewn trafodaeth ar Y Weinidogaeth a'r Sacramentau yng Nghynhadledd Caeredin ar "Ffydd a Threfn" apeliodd at yr aelodau i feddwl yn ddwys a chrynhoi eu hadnoddau i lunio athrawiaeth ddigonol am yr Eglwys. Cyn y cawn athrawiaeth gywir am yr Eglwys rhaid i ni fynd yn ôl at awduron y Testament Newydd. Hwy yn unig all roddi