Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gennym ddulliau a chyfryngau eraill, megis archaeoleg, llên-gwerin, tafod- ieitheg, astudiaeth o enwau lleoedd, etc., gyda'u dulliau gwyddonol manwl a dibynadwy. Eisoes cawsom astudiaethau gwerthfawr yn rhai o'r meysydd hyn gan ysgolheigion, megis y diweddar V. E. 'Nash-Williams, yr Athro E. J. Bowen, Mrs. N. Chadwick, yr Athro K. Jackson, ac eraill o "ysgol Caergrawnt a geisiodd ddehongli rhai agweddau ar ein hanes cynnar. Yn sicr, mae gwaith Dr. Mac Cana gyda'i wybodaeth o lenyddiaeth Wyddel- eg yn gyfraniad i astudiaeth o'n llenyddiaeth ac o'n hanes yn y cyfnod hwn. Gwerthfawr iawn yw'r dystiolaeth a gasglodd, ac fe ymgodymodd yn lew â phwnc dyrys ddigon. Ni charwn i roi barn derfynol yma ar ei ddehongliad o'r ffeithiau a gasglodd, eithr. prin y cefais fy argyhoeddi eu bod yn cyfiawnhau damcaniaeth mor ibendant ynglyn â chyfnasoddiad Branwen ag a awgryma ef, na bod ynddi gymaint o fenthyciadau union- gyrchol a llenyddol o'r Wyddeleg. Diddorol iawn yw'r awgrym ynglŷn ag awduraeth y 'gainc, eithr y mae'n bwysig cofio fod Sulien a Rhigyfarch yn wyr a flinwyd yn fawr 'gan helyntion a digwyddiadau tyngedfennol eu dydd, a bod ganddynt argyhoeddiadau pendant ynglyn â hwy; mae'n anodd iawn gennyf gredu mai'r un yw awdur Branwen â'r gŵr a luniodd Fuchedd Dewi. Rhaid fydd inni wybod mwy am amgylchiadau ac amodau'r gyfathrach rhwng Cymro a Gwyddel yn y canrifoedd hyn. Eisoes fe gafwyd rhai astudiaethau, megis llyfr Miss Cecile O'Rahilly, Ireland and Wales, ac erthygl faith gan C. H. Slover, Early Literary Channels between Wales and Ireland (University of Texas Bulletin, No. 2743, Nov. 15, 1927). Fe gawn, gobeithio, gyfraniadau eto gan Dr. Mac Cana a'n gesyd mewn rhag- orach sefyllfa i ganfod yn sicrach ac yn eglurach rai o nodweddion ac o ffynonellau ein llên mewn cyfnod cynnar. D. Simon EVANS. Dulyn. SYR HERBERT LEWIS, 1858­1933. Golygwyd gan K. Idwal Jones. Gwasg Prifysgol Cymru, 108 td. Pris 8/6. Cywaith yw'r cofiant byr hwn. Ar ôl rhagair twymgalon gan Dr. William George ceir penodau ar fywyd cynnar John Herbert Lewis, a'i yrfa yn y Senedd, gan ei ferch, Mrs. Kitty Idwal Jones. Fe'u dilynnir gan dair pennod ar wahanol agweddau o'i fywyd cyhoeddus, un ar ei weithgar- wch ynglŷn â Llywodraeth Leol, gan Mr. W. Hugh Jones; un ar ei waith dygn er sicrhau i'r genedl ei Llyfrgell Genedlaethol, a'i haelioni tuag ati wedi ei sefydlu, gan y Prifathro Thomas Parry; a'r olaf, gan Syr Ben Bowen Thomas, ar ei waith fel Ysgrifennydd Seneddol y Bwrdd Addysg o 1915 i 1922. Ceir hefyd nodiadau a mynegai ar ddiwedd y llyfr. O fewn y cwmpas a benderfynwyd iddo anodd fyddai gwella ar y llyfr hwn. Prin y ceir gair gwastraff o'i ddechrau i'w ddiwedd. Er i'w hedmygedd o'i thad dywynnu drwy'r ddwy bennod a sgrifennodd Mrs.