Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

deg awgrymu fod y Cymro yn gwybod am y chwedlau Gwyddeleg a roddai hanes am ymgyrchoedd gan Cu Roi a Cu Chulainn i geisio Bláthnat, ond llo yr oedd cael y pair hefyd yn amcan ychwanegol. Mae adran Branwen o'r gainc yn seiliedig ar elfennau a gymerwyd o themau poblogaidd, ac yn arbennig o un neu ragor o fersiynau thema'r Wraig a Gamgyhuddwyd. Aeth Branwen i Iwerddon yn wraig i'i brenin Gwyddelig, ac ar ôl ei sarhau yno, anfonodd at ei brawd drwy gyfrwng "ederyn drydwen." 0 hyn i'r diwedd cawn gyfaddasiad o thema'r ym- gyrch am y pair. Er nad hwnnw yw amcan yr ymgyrch bellach, mae'n chware rhan ganolog yn y frwydr fawr rhwng y ddau lu. Dyna, felly, fframwaith yr ail gainc ati fe ychwanegwyd digwyddiad- au a sefyllfaoedd newydd,-llawer ohonynt o darddiad Gwyddelig, a'u cyf- uno'n gelfydd i lunio'r chwedl yn y ffurf sy'n hysbys i ni. Wrth ymdrin â chrefft y cyfansoddi ac arddull yr "awdur," mynn Dr. Mac Cana fod nodweddion y meddwl diwylliedig ac ysgolheigaidd i'w canfod drwyddi, sef trefn, cymesuredd, eglurder a chynildeb. Mae Branwen yn ddiwedd- arach na'r tair cainc arall, heb draddodiad llafar y tu ôl i'w chyfansodd- iad. Ni olyga hyn nad yw llawer o'r elfennau ynddi yn hanfod o themau a chwedlau traddodiadol, eithr y mae'r gainc yn ei ffurf a'i chynllun yn greadigaeth lenyddol yr "awdur." Nid cynnyrch ei ddychymyg mohoni; yr hyn a wnaeth oedd cyfaddasu'r defnyddiau a oedd wrth law, a rhoi ffurf a llun ar y cyfan. Ef sy'n gyfrifol, felly, am gyfansoddiad y gainc, er mai ychydig o'r defnyddiau ynddi a hanoedd o'i ddychymyg ef. Mae llawer o'i chynnwys i'w briodoli i'w adnabyddiaeth o lên y Gwyddel, a diau fod ganddo mewn ffurf ysgrifenedig wrth ei benelin rai o'r chwedlau Gwyddeleg, megis Scéla Mucce Meic Dathó, Fled Bricrenn, Togail Bruidne Da Derga, yn arbennig yr olaf, y cafodd ohoni ddeunydd lawer darn o'r gainc. Yn ogystal â bod yn hyddysg yn llên y Gwyddel, fe ymddengys e fod hefyd yn gyfarwydd â daearyddiaeth Iwerddon. Nid oes yn y benthyciadau Gwyddelig ddim i'n rhwystro rhag derbyn diwedd yr unfed ganrif ar ddeg neu ddechrau'r ddeuddegfed fel cyfnod cyfansoddi'r chwedl. Dyma gyfnod y cyffro a ddaeth yn sgil y deffroad cenedlaethol dan Gruffydd ap Cynan a Rhys ap Tewdwr. Mae'n sicr fod symudiadau a helyntion Gruffydd yn gyfrwng i ledaenu a dyfnhau dylan- wad y Gwyddel yng Nghymru, eithr wrth geisio chwilio am ffynhonnell ac awduraeth gwaith fel Branwen, rhaid troi at ddysg ac awyrgylch y fynaoh- log, lle byddai gan yr awdur hamdden i lunio a chyfansoddi. Gwelsom eisoes fod Dr. Mac Cana o'r farn fod yr awdur yn ysgolhaig, a diddorol iawn yw ei awgrym mai'r ysgolhaig hwnnw oedd Rhigyfarch neu ei dad Sulien. Rhigyfarch, wrth gwrs, oedd awdur Buchedd Dewi, a gwyddys yn iawn am y cysylltiadau Gwyddelig a adlewyrchir yn honno. Gwyddys hefyd i Sulien fyw am gryn gyfnod yn Iwerddon, a rhaid bod y naill a'r llall yn hyddysg ddigon yn hanes a llên y wlad. Y mae llawer o waith i'w wneud eto ar lên a hanes y canrifoedd cynnar hyn. Bellach ni raid pwyso ar ffynonellau llenyddol yn unig; y mae