Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cydnebydd Dr. Mac Cana ei ddyled i waith Gruffydd, ac y mae'n uchel ei glod iddo, er na fynn dderbyn ei holl gasgliadau. Yn sicr, gwaith Dr. Mac Cana yw'r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr o ddigon ar yr ail gainc a gafwyd hyd yma. Ni charwn ymddangos yn nawddogol, eithr teg yw dweud fod ganddo gymwysterau arbennig at y gwaith hwn. Y mae ef be-lach ar y blaen i bob ysgolhaig Gwyddeleg yn ei wybodaeth o'r Gymraeg, a chyda'i wybodaeth eang o'r hen lenyddiaeth Wyddelig, gallodd gasglu ynghyd themau a hanesion yn honno y ceir cyfatebiaethau iddynt yn Branwen. A dyna yw pennaf cyfraniad y gyfrol odidog hon, cyfrol a nodweddir gan arddull goeth a chadarn, ac ymdriniaeth glir, heb ddim o rodres yr ysgolhaig a gais ein llethu â'i gasgliadau a'i ddamcaniaethau. Yn gyntaf, fe ddelia â'r rhannau hynny o Branwen nad oes amheuaeth ynghylch eu tarddiad Gwyddelig, sef yr hanes am y tỳ haearn yn Iwerdd- on (PKM 36), y disgrifiad a rydd meichiaid Matholwch o Fendigeidfran ar ei ffordd i Iwerddon (ib. 39 — 40), a'r esboniad ar bum talaith Iwerddon (ib. 48). Yn dilyn hyn fe geir ymdriniaeth â nifer o themau a hanesion eraill y gall fod arnynt ddylanwad Gwyddelig, megis yr hanes am Llasar Llaes Gyfnewid a'r pair (PKM 35), y pair dadeni (ib. 34, 44), y milwyr yn y byly (ib. 42-43), y ty mawr a adeiladwyd i Fendigeidfran (ib. 4τ-4ı), cymeriad Efnisien, rhai agweddau ar hanes arhosiad y seithwyr yng Xgwales (46­47), y cyfeiriad at Fendigeidfran yn cludo'r cerddorion (ib. 39), torri pen Bendigeidfran (44-45) a'i gladdu (ib. 45, 47), marwolaeth Branwen (ib. 45). Cawn bennod ar amrywiol elfennau yn y gainc, pennod ar Manawydan, Bendigeidfran a'r is-deitlau (PKM 47. 8-g, 25­26; 48. 12 ­18), ac un arall ar Branwen. Gorffennir gyda phennod ar gyfansoddiad y gainc, ei dyddiad a'i hawduraeth. Dyma rai o brif gasgliadau'r awdur: Y thema sylfaenol yn y gainc yw ymgyrch i'r Byd Arall gan Brân i geisio pair. Nid oes fodd bod yn bendant yngîŷn â tharddiad Brân, eithr tuedda Dr. Mac Cana at y farn mai cymeriad Brythonig oedd, ac amheus yw o ddamcaniaeth Gruffydd ei fod wedi ei gymryd o draddodiadau am Bran mac Febail, y tybir iddynt ddod yn gynnar i Gymru. Yr oedd hanes am ymgyrch i'r Byd Arall i geisio pair yn hen thema. Yn Gymraeg fe ddigwydd yn y gerdd Preideu Annwvyn yn Llyfr 7alicsir, lIe yr adroddir am ymgyrch gan Arthur yn ei long Prydwen yn erbyn Caer Siddi neu Annwfn; yno yr oedd Peir Pen Annwvyn. Bu ymladd caled amdano, ac ni ddychwelodd ond saith o'r ym- osodwyr (yr un nifer ag a ddychwelodd o Iwerddon, PKM 44. 23). Fersiwn o'r thema hon sydd wrth wraidd Branwen mae'n bur debyg mai Pryderi a arweiniai'r ymgyrch yn y fersiwn wreiddiol, eithr yn ddiweddarach rhodd- wyd y flaenoriaieth i eraill, megis Arthur a Brân,-cawn esiamplau cyffelyb o newid arweinydd yr ymgyrch yn llên y Gwyddel. Yn yr ail gainc, newid- iwyd cryn dipyn ar y thema wreiddiol drwy ychwanegu'r hanes am Franwen. Canlyniad hyn oedd gwneud achub Branwen yn hytrach nag ennill y pair yn amcan i'r ymgyrch. Ni ellir penderfynu pa bryd y di- gwyddodd hyn, na phaham y rhoddwyd Branwen yn Ue'r pair, eithr mae'n