Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn Wrecsam, ac un arall ym Mhen-ar-lag; bu hefyd Domus Leprosorum yng Nghaernarfon adeg teyrnasiad Iorwerth III. Bu unwaith glafdy (gynt, clafrdy) yn Rhyd-y-Clafdy ger Cemais, Môn, ac un yn y Rhyd-y-Clafdy arall sydd rhyw dair milltir o Bwllheli. Mae yn Aberteifi Bont y Cleifion," Gweirglodd y Cleifion yn Llanrwst, a Gwern Glefryd yn Llanelwy.17 Ond na thybied neb oddi wrth yr enwau hyn i gyd fod y gwahanglwyf yn frith drwy'r wlad. Cyfeiliorni yn ddirfawr wnaeth un hanesydd trwy ddweud fod yr afiechyd hwnnw yn fwy difrifol na haint y nodau yn yr ynysoedd hyn yn y Canol Oes- oedd, a chyfeiliorni wnaeth Egerton Phillimore, a Robert Richards ar ei ôl, pan ddywedont fod y gwahanglwyf wedi ysgubo trwy'r wlad o'r unfed i'r drydedd ganrif ar ddeg. Ni fu'r afiechyd erioed yn ddigon heintus i haeddu ei alw'n "ys- gubol." A gwyddom erbyn hyn mai cruglwyth o afiechydon yw pethau fel clafr," gwahanglwyf," "leprosus," a'u tebyg. Efallai fod rhyw ddau neu dri o wir wahangleifion mewn ambell gwmwd yng Nghymru yn y Canol Oesoedd, a thebyg nad oedd ond rhyw ddyrnaid ohonynt mewn esgobaeth gyfan. Tlodion a thrueiniaid o bob math, cleifion dan amryfal afiechydon-rhai mwy gwaradwyddus na'i gilydd, dyna hwy "gwahangleifion" Cymru gynt. Llangwyfan. 1 Priodol fu geiriau'r prydydd am gorff ac enaid y Tad Damien, O God, the cleanest offering Of tainted earth below, Unblushing to Thy feet we bring- 'A leper white as snow' 2 Lancet (1955) I, 856. 3 Morris Letters II, 236. 4 Geiriadur Prifysgol Cymru; Gwybodaeth gan Syr Ifor Williams. 5 Morris Letters, II, 180, 279-80. 6 Garrison, F. H. (1921), An Lntroduction to the History of Medicine, p. 170. 7 Arthur ap Gwynn (1926), Traethawd M.A. Prifysgol Cymru. G. PENRHYN JONES. NODIADAU.