Yn ei ymddangosiad allanol y mae Brycheiniog yn dilyn patrwm a osod- wyd gan Ceredigion, cylchgrawn Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi; nid annhebyg hefyd yw cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd y cyhoeddwyd ei ail rifyn yn 1955. Cymerodd Ceredigion a Meirionnydd eu golygyddion o'r tu allan i'w siroedd, sef o blith staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae golygydd Brycheiniog yn byw yng nghanol y sir sy'n faes i'w gylchgrawn. Athro yn y Coleg Coffa, Aber- honddu, yw'r Parchedig D. J. Davies. Mae'r cylchgrawn yn rhagori ar ei gymheiriaid sirol mewn peth arall hefyd, sef yn y ffordd drwyadl yr aed ati i drefnu'r rhifyn cyntaf. Nid digon gan y golygydd oedd casglu erthyglau ac anerchiadau amrywiol fel y digwyddent ddod i'w ddwylo. Mae'r rhifyn cyntaf yn benderfynol o roi seiliau cedyrn i'r hyn sydd i ddilyn. Er mwyn dechrau gyda'r dechreuad cynharaf posibl gofynnwyd i'r Dr. F. J. North o'r Amgueddfa Genedlaeth- ol roi hanes manwl daearegol o'r ffordd y lluniwyd Sir Frycheiniog, er mwyn gaUuogi'r darllenydd i weld y tir presennol nid yn unig fel rhan- barth yr aeth dyn i mewn iddo a'i addasu i'w ddibenion ei hun, ond fel darlun mewn panorama a ddechreuodd ddod i'r golwg mewn oesoedd sydd mor bell nes bod y tu hwnt i ddirnadaeth ddynol (td. 10). Rhoir rhag- arweiniad cyffredinol gwych yn yr erthygl hon ar gyfer darllenwyr a allai fod heb gyfarwyddo â'r syniadau a'r termau perthnasol ond mae'r erthygl o fudd mawr mewn ffyrdd eraill yn ogystal, nid yn unig i gyfeill- ion y sir ond i unrhyw un a hoffai wybod rhywbeth am hanes tir Cymru. Pan ffurfiwyd y tir daeth dyn i'r llwyfan; a gall archaeoleg a hanes afael yn y stori fel y daw dyn i mewn a'i addasu ei hun i'or olygfa neu ei newid hi i ateb ei ofynion." Rhoddwyd y dasg hon i'r Dr. H. N. Savory, o Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Edrydd ef stori dyn ym Mrycheiniog gyn-hanesyddol, gan ddechrau tua 2000 C.C. gyda phobl y dolmen a gorffen tuag amser dyfodiad y Rhufeiniaid gyda chaerau mynyddig pobl yr Oes Haearn. Siomir dyn rywsut am na ddaw'r Rhufeiniaid i'r gyfrol hon. Cyfeirir yn gynnil at erthygl bosibl gan y Dr. Nash-Williams mewn rhifyn sydd i ddod." Tybed a orffenwyd yr ysgrif hon ganddo cyn ei farw alaethus a chynamserol? Addas yw bod erthygl olaf y gyfrol yn Gymraeg, sef Teithiau yn Sir Frycheiniog gan y Parch. J. Seymour Rees, erthygl a enillodd wobr yn Eisteddfod Ystradgynlais yn 1954. Yn ystod mis Awst diwethaf cefais gyfle dymunol i brofi gwerth Brycheiniog yn y Sir ei hun wrth fwrw gwyliau am wythnos yn y Coleg Coffa, Aberhonddu. Wedi dringo Pen-y-fan (2,907 troedfedd) syfrdanol oedd cofio sylw'r Dr. North fod hyd yn oed copaon y Bannau drigain a phump miliwn o flynyddoedd yn ôl, naill ai wedi suddo o dan y môr neu'n aros yn unig fel ynysoedd (td. 53). Mae'r Parch. Seymour Rees, ar y llaw arall, ar ôl dringo'r Bannau, yn adrodd y stori werin am Lyn Cwm Llwch wrth droed Pen-y-fan. Yn y stori hon cyfyd cawr cas o'r llyn a bygwth