gwreiddiol yn y fan hon. Nid teg fyddai dweud bod yr ystwythder llafar yn llwyr ar goll. Trinir y geirynnau chwim yn bur fedrus. Mae'r trosiad ar ei orau, er hynny, yn y darnau syber-ddwys. Ceir yn Y Wladwriaeth un o'r muthau Platonaidd grymusaf, ac mae yma wir gamp ar y cyfieithu. Er bod Platon am alltudio'r beirdd o'i wladwriaeth, bydd yn dyfynnu'r beirdd yn lled aml-weithiau, mae'n wir, er mwyn eu condemnio. Cafodd Syr Emrys hwyl neilltuol ar drosi'r darnau hyn. Defnyddia'r gynghanedd yn gelfydd, megis yn y llinellau hyn gan Aischulos: I'w feddwl ffrwythlon, a'i gyson gwysau, E dyf, o'i aredig, da fwriadau. Mae'n cyfleu awyrgylch y gwreiddiol yn effeithiol hefyd, fel yn ei drosiad o ddarlun Homer o Hades: Megis mewn rhyw lorn ogof anaele a gela'r ystlumod, Gwichian, cyhwfan hefyd a wnânt, pan syrth un o'i nen, Glynu'n adeiniog linyn-bu unwedd bob enaid a wichiai. Cefais y fraint o weld cyfieithiad gan Syr Emrys yn y mesur cywydd o gân Horas Vides ut alta stet nive candidum felly nid annisgwyl i mi oedd y campau hyn. Cynhyrchwyd y gyfrol yn deilwng gan Wasg y Brifysgol. Dyma goron gymwys ar ei chyhoeddiadau yn y maes hwn, a choron hefyd ar lafur y cyfieithydd. Ni allai neb ymgymryd â gwaith o'r fath heb fod ganddo ffydd fawr yn nyfodol yr iaith Gymraeg. Hyderaf y caiff y gyfrol y sylw a haedda. Defnyddir hi, gobeithio, yn nosbarthiadau allanol y Brifysgol. Eisoes bu'n destun cynhadledd arbennig Adrannau Athronydd- 01 a Chlasurol Urdd y Graddedigion. Ond gobeithio yn bennaf oll y bydd y Brifysgol ei hun, yn ei chyrsiau swyddogol a chydnabyddedig, yn defn- yddio'r llyfr ac y mae'n bwysig nid yn unig i athronwyr a chlasurwyr ond i bawb sy'n ymddiddori yn hynt meddwl dyn. J. GWYN GRIFFITHS. Coleg y Brifysgol, Abertawe. BRYCHEINIOG, Vol. I, 1955, Ed. D. J. Davies, published by the Brecknock Society. Tt. 183, pris heb ei nodi. Antur yw cyhoeddi llyfrau, ar y gorau, ac y mae'r ffaith fod cylch- grawn newydd yn cychwyn ar ei daith yn arwydd o fywyd ysbrydol iachus a hoyw. Yn ystod y deuddeng mis a apth heibio dechreuwyd yng Nghymru ddau gylchgrawn sy'n ymdrin â thraddodiad lleol. Mae enw Cymraeg ar y ddau, a Chymry Cymraeg yw eu golygyddion er mai Saesneg yw iaith y cylchgronau gan mwyaf. Amcan Gwerin, cylchgrawn y Dr. Iorwerth Peate, yw gwasanaethu astudiaethau bywyd gwerin yng ngwledydd Prydain i gyd, ond maes arbennig Brycheiniog, fel yr awgryma'r enw, yw un sir yn unig.