Adolygiadau. PLATO Y WLADWRIAETH. Cyfieithwyd gan D. Emrys Evans tt. 376; pris 15/ \Gwasg Prifysgol Cymru, 1956. Dyma'r chweched o weithiau Platon a Gymreigiwyd gan Syr Emrys Evans. Y Wladwriaeth yw campwaith Platon yn ddiamau, ac mae'n un o gampweithiau llenyddiaeth Ewrop; yn wir y mae'n un o'r llyfrau mwyaf ei ddylanwad a sgrifennwyd erioed. Digwyddiad llenyddol o gryn bwys, gan hynny, yw ei ymddangosiad yn Gymraeg. Ar un olwg ffaith hynod iawn yw na chafodd y Gymraeg fersiwn ohono tan y flwyddyn 1956 o oed ein Harglwydd. Ffaith drist iawn hefyd, yn adlewyrchu diffyg enbyd yng ngorwelion llenyddol ein cenedl a dyfodiad hwyr ein prifysgol. Ond achlysur i lawenhau yw inni gael y cyfieithiad hwn yn awr o law un sy'n feistr profiadol ar ei waith. Ceir llawer lliw a thro yn arddull Y Wladwriaeth; mae'n ysgafn a dwys, yn gnotiog, yn gyllellog, yn eironaidd, yn storïol, yn ddarluniadol, yn athrawiaethol-prawf eithaf ar fedr unrhyw gyfieithydd. Yn wahanol, efallai, i rai campweithiau athronyddol modern, dyry'r gwaith hwn ymdeimlad mynych o'i hoywder llenyddol. Dywed Syr Idris Bell mewn traethawd ar ein dyled i'r Groegiaid (The Crisis of Our Time, t. 58): Cymerwch ddarn nodweddiadol o unrhyw waith athronydd- ol modem ac fe'i cewch yn llawn o eiriau haniaethol a thermau technegol; cymerwch ddarn tebyg o Blaton neu Aristotlys, ac fe'i cewch wedi ei fynegi gan mwyaf mewn geiriau syml, bob-dydd heb fawr o dechnegolrwydd." Gellir meddwl am eithriadau ymysg athronwyr modern, megis Santayana; ar y llaw arall mae ambell ddarn gan Blaton yn bur anodd ei ddeall, fel ei drafodaeth o'r Llinell." Ond enghraifft yw'r LlineU ei hun o'r dull sy'n dechrau'n ddiriaethol. Erys y cyferbyniad; ac wrth ddarllen trosiad Syr Emrys Evans down i gyfathrach aml â disgleirdeb llenyddo) y gwreiddiol. Dengys amrywiaeth y cyfieithiadau Saesneg diweddar fod modd dewis rhwng nifer o deipiau arddull wrth gyflwyno Platon. Ymgom rhwng personau yw'r Wladwriaeth ac y mae lle i gyfleu'r ysgafnder a'r cyflymder llafar sy'n gymysg ag urddas y gwreiddiol. Arddull goeth a dillyn a geir yn y cyfieithiad Cymraeg, a'r argraff gyffredinol a rydd ydyw ymdeimlad â golud yr iaith lenyddol. Weithiau, o bosibl, aeth y cyfieithydd yn rhy bell i'r cyfeiriad hwn. Gwell ganddo'r blas hynafol fel mewn erchi," gwneuthur," unbeiniaeth," nis gorchymyn y gystrawen serch bod a "serch iddo" a'r modd dibynnol aml. Brawddeg hynod yw "hi ad i'th lysnafedd redeg, heb sychu dy drwyn fel y dylai (t. 23) — hynod am yr ieuad o ieithwedd Olumpaidd a chartrefol. Daw naws Feiblaidd i mewn ar dro, fel yntau, gan lefaru fel y clywai pawb, dywedodd (t. 14); ond mae hyn yn gynnig addas ar gyfleu awgrym Homeraidd y