Y Gernyweg Tranc Iaith II. Ein tyst nesaf o bwys yw Richard Carew. Rhydd ef ddisgrif- iad o gyflwr yr iaith a'i sefyllfa tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn ei Survey of Cornwall dywed fod Gweddi'r Arglwydd, y Credo a'r Deg Gorchymyn wedi bod gryn dipyn ar arfer mewn Cernyweg ers cyn cof. Yr oedd y miraglau yn boblogaidd yn ei ddydd ef, ond fe ddywed hefyd ddarfod gyrru'r iaith i bellafoedd y sir, a bod Saesneg yn parhau i ennill tir arni. Nid oedd ond ychydig iawn heb fedru Saesneg, er bod llawer yn ffugio anwybodaeth ohoni. Ac fe gydnebydd hefyd fod olion o ddicter pobl ddarostyngedig yn parhau ymhlith y trigolion tlotaf, yn enwedig yn y gorllewin. Mor ddiweddar â chyfnod Elisabeth, fe gai Sais weithiau yr ateb swta: Meca nat'idna cowsa sauzneck Ni fynnaf siarad Saesneg." Bu dirywiad cyflym yn yr ail ganrif ar bymtheg. Dywed John Norden wrthym yn chwarter cyntaf y ganrif fod mwyafrif mawr y rheini a siaradai Gernyweg yn y gorllewin yn ddwy- ieithog. Yn ei Speculum Magnae Britanniae, pars Cornwall, fe ddatgan fod y sir i'r dwyrain o Truro wedi ei Seisnigeiddio bron yn llwyr. Am y parthau gorllewinol, fe ddywed: In the west parte of the county, as in the Hundreds of Penwith and Kerrier, the Cornish tongue is mostly in use, and yet it is to be marvelled that though husband and wife, parents and children, master and servants, do mutually communicate in their native language, yet there is none of them but in manner is able to converse with a stranger in the English tongue, unless it be some obscure persons that seldom converse with the better sort. But it seemeth that in few years the Cornish language will be by little and little abandoned." Tua chanol y ganrif fe beidiodd y perfformiadau o'r miraglau, ac un o'r prif resymau am hyn, mae'n ddiau, oedd prinder cyn- ulleidfaoedd i'w deall. Gwelsom oddi wrth dystiolaeth Norden mai obscure persons yn unig oedd yn uniaith bellach. Ni allai pobl felly gadw iaith yn hir mewn oes o gynnydd a dat-