enillydd y goron, a phawh o'r aelodau, o bob rhan o Gymru bron, ar oen eu digon. Yr oedd yn amlwg fod tynged y Clwb wedi ei benderfynu o'r foment honno. Yr oedd Anthropos yn dduw yn eu mysg, beth bynnag oedd safle yr aelodau yn y byd, ac yn wir fos arnynt i gyd. Nid rhaid oedd iddo ond rhoi winc neu wên neu duchan, na chawsai ddistawrwydd llethol cyn i'r dorf dorri allan i chwerthin yn uchel ac yn hir-ac yntau yn dal i dynnu'n gyflym yn ei sigaret wlyb. Yn nes ymlaen croesawyd enillwyr Eisteddfod Bae Colwyn, ac yn eu mysg R. Williams Parry ar ei awdl Haf. Fel y tyfodd y Clwb, aethant i wahodd enwogion Cymru i'w hannerch. Ni fu y fath frwdfrydedd ac a gaíwyd yng nghyfarfod Ionawr. 1914, pan ddaeth yr Athro John Morris Jones, y Prifathro J. H. Davies, a'r Dr. Gwynn Jones i'w hannerch. Nid rhyfedd i un newyddiadur Cymraeg gael hwyl wir ddiwygiadol wrth sôn am y cyfarfod hwnnw gan ei yrru i ddweud: Os oes unrhvw Gvmro vn awyddus am gael ei galon yn fflam am bedair neu bum awr, ceisied gael trwydded i'r gymdeithas hon. Ar vr un pryd, dylent gofio mai cyfyng yw y porth.' Bu farw y Parchedig R. D. Rowland, gweinidog Beulah, yn 1944, dros ei ddeg a phedwar ugain mlwydd oed, ond fe fydd Anthropos fyw tra pery aelodau o'r Clwb ar y ddaear i siarad am y sefydliad digyffelyl). W. R. OWEN.