a lled y byd, i gyd yn ymfalchïo yn eu haelodaeth o'r gymdeithas fawreddog. Ef yn wir oedd y Clwb vnghanol casgliad o ddynion o orchwylion mor amrywiol,—teilwriaid, athrawon, bancwyr, cigyddion, gweision suful. groseriaid a chryddion­-a phob un yn caru llenyddiaeth neu gerddoriaeth, a phob un yn barod i daflu ei hun wrth draed Anthropos, pa mor frathog bynnag ei eiriau. Oherwydd swildod cynhenid Anthropos, yr oedd yn rhaid i bopeth ynglyn â'r Clwb fod vn syml ac yn naturiol. Onid oedd- ynt i gyd yn ddynion gwerinol wedi eu dwyn i fyny mewn amgylchedd dirodres mewn cartrefi democrataidd heb lawnder ac heb foethau gormodol byd ? Onid oeddynt i gyd yn ddynion o gartrefi crefyddol, beth bynnag am eu daliadau preifat yn awr ? A dyna phaham y cynhelid. nid cinio rh wvsgfawr ar ôl hir-grefu ar Anthropos, ond, fel yr awgrymais, swper syml o de a chacen- nau, bara menyn cartre, blanc-manges a jellies. Er pan gafwyd y cyfarfod cyntaf yn Ionawr, 1009, yng nghaffe y Cwch Gwenyn hyd yr olaf yn 1932 yng nghaffe Y Frenhines (cyrchfan rhydd- frydwyr ar hyd yr oes;, pan oedd Anthrcpos dros ei bedwar ugain oed, ni chynhaliwyd yr un o'r cyrddau heb Anthropos yn y canol ar y bwrdd uchaf Ac yr oedd yn werth ei weld-a gwên slei ar ei wyneb wrth edrych o gwmpas trwy fwg baco tew ar ei gymdeithion, ac yntau, wedi ei berswadio i smocio sigaret! O bob gorchwyl, dyma un na lwyddodd ynddi. Cyn hir yr oedd y sigaret hanner ffordd yn ei geg, ac yn diferu o wlybaniaeth prentis o smociwr. Ar hyd bywyd y Clwb. trefnwyd 1 gofio ac i draethu am bawb o sylwedd ym myd llenyddiaeth a chân, o ddathliad dydd geni Goronwy Owen hyd ganmlwyddiant geni Ceiriog. Fel arwydd o gariad y pwyllgor a'r llywydd at Oronwy, trefnwyd i dalu ymweliad a man ei eni yn y Dafarn Goch yn Llanfair Mathafarneithaf, Môn. Ac vn y mis Gorffennaf godidog hwnnw, dychmyger gweled ^wr o ddynion gwlatgar yn hercian yn hamddenol trwy lonydd culion a Hnchlyd Môn mewn tangnef- edd, gan lawenhau yn yr amgylchfyd prvdferth. Ac yn yr un mis Gorffennaf, cafwyd cyfarfod yn Y Frenhines i groesawu ac i longyfarch buddugwyr Eisteddfod Genedlaethol Llundain, sef y Dr. Gwynn Johäs ar ennill v gadair, a'r Athro W. J. Gruffydd,